Mae trefnwyr y Gyfres Triathlon Antur fwyaf cyffrous y DU, Camu I’r Copa, yn cyflwyno Duathlon Llwybr Coed y Brenin. Wedi’i sylfaenu yng nghanolfan llwybr gorau'r DU, mi fydd y duathlon yn rhoi'r athletwyr trwy gymysgedd o lwybrau anodd ond boddhaus a oedd yn flaenorol wedi cau i feicwyr a rhedwyr.
Mae cymysgedd o ddringfeydd serth, disgyniadau gwerthfawr ac atmosffer gwych gan y gynulleidfa yn golygu fod y digwyddiad agoriadol yn addo i gyffroi athletwyr ac ymgysylltu pawb yno.
Beth i’w ddisgwyl
Mae’r Duathlon Llwybr Coed y Brenin ar fin dod yn un o'r prif duathlons llwybr yn y DU!
Ochr yn ochr â rhai o'r llwybrau beicio mynydd mwyaf anhygoel yn y wlad, byddwch hefyd yn cael profi atmosffer enwog digwyddiadau Camu I'r Copa - gofynnwch i unrhyw un sydd wedi cymryd rhan yn un o'n triathlons neu gystadlaethau anhygoel eraill sydd ar gael.
Crysau-T a Hwdi’s
Ein cyflenwr nwyddau swyddogol ar gyfer 2017 yw BONK Athletau, maent yn cynnig rhai o'r dillad chwaraeon gorau sydd ar gael ar hyn o bryd! Archebwch eich dillad wrth gofrestru, bydd gennym feintiau cyfyngedig iawn ar y penwythnos.
*** Os gwelwch yn dda gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu eich crys-t neu hwdi ar benwythnos y digwyddiad, nid ydym yn gallu eu hanfon allan ar ôl yr amser hwn. ***
Dyma beth y byddwch yn ei gael ar gyfer eich ffi cystadlu...
Duathlon safon fyd-eang, a drefnwyd proffesiynol
Tships amseru electronig oddi wrth Wasanaethau Digwyddiadau TDL
Pentref Digwyddiad gyda stondinau gan ein partneriaid
Gorsafoedd diodydd ar y cwrs ac ar y llinell derfyn
Ein marsialiaid cyfeillgar enwog
Adloniant Teulu
Gwasanaeth canlyniadau wê
Traciwr byw i gadw llygad ar eich ffrind neu aelod o'r teulu wrth iddynt gystadlu
Marcio llwybr llawn
Ffotograffiaeth
Gorsaf bwydo llinell derfyn wedi’i stocio’n llawn
Memento ar gyfer yr holl gorffenwyr
Bag nwyddau am DDIM wrth gofrestru