GWYBODAETH I BOBL LEOL | Always Aim High

Cymraeg

GWYBODAETH I BOBL LEOL

Covid-19

Diogelwch pawb sy'n mynychu ein digwyddiadau yw ein prif flaenoriaeth, ewch i'n tudalen Covid-19 i weld y wybodaeth ddiweddaraf ar sut y byddwn yn cyflwyno digwyddiad Covid diogel yn y gymuned. Sylwch y gall yr holl amseriadau isod newid.

Amseroedd


Cau ffyrdd


Gwylio

Yn unol â Chanllawiau ac Arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru'r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, nid yw gwylwyr yn cael eu hannog ar hyn o bryd yn ein digwyddiadau oherwydd Covid-19. Ewch i'n tudalen Covid-19 i weld y wybodaeth fwyaf diweddar ar sut y byddwn yn cyflwyno digwyddiad Covid diogel.

Gobeithiwn groesawu gwylwyr yn ôl cyn gynted ag y gallwn a byddwn yn diweddaru gwybodaeth yma felly gwiriwch yn ôl yn agosach at y digwyddiad.

Cymryd Rhan

Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.

Arwyddion a Sbwriel

Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.

Bydd angen i wylwyr ddefnyddio'r cyfleusterau Talu ac Arddangos priodol wrth barcio. Mae gwardeiniaid cyngor yn debygol o roi tocyn i gerbydau sydd wedi'u parcio'n wael gan eu bod yn peri risg wirioneddol i ddiogelwch yr holl gystadleuwyr.

Bydd y ras yn dechrau ac yn gorffen yn y promenâd felly byddai hwn yn lle gwych i wylio pawb yn mynd a dod.

Mae croeso i chi wylio ar y llwybr ond cofiwch ei fod i gyd yn ffyrdd agored felly cadwch eich hun a'r rhedwr yn ddiogel.

Mae croeso i chi ddod i mewn i bentref y digwyddiad i fwynhau'r awyrgylch ac ymweld â'n stondinau masnach.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar wylwyr oherwydd Covid-19.

Event Partners