Cymraeg

Info for locals copy

Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.

Fel aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.

Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg.

Covid-19

Diogelwch pawb sy'n mynychu ein digwyddiadau yw ein prif flaenoriaeth, ewch i'n tudalen Covid-19 i weld y wybodaeth fwyaf diweddar ar sut y byddwn yn cyflwyno digwyddiad diogel cofalent yn y gymuned. Sylwch y gall yr holl amseriadau isod newid.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ochr yn ochr â Triathlon a Duathlon Llanc y Llechi.

Amseriadau

Fel arfer mae'n cymryd dau ddiwrnod i osod i fyny digwyddiad penwythnos y Llanc y Llechi & Chwarelwr. Bydd athletwyr yn dechrau cyrraedd tua 07:00 ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, ac mae staff yn cyrraedd y safle tua 2 awr cyn hynny. Yn ystod oriau anghymdeithasol bydd yr holl sŵn yn cael ei gadw mor isel â phosibl.

Dydd Sadwrn bydd:

  • Triathlon Sbrint Byr
  • Triathlon Sbrint a Duathlon
  • 3 phellter o nofio dŵr agoredrhediad
  • 5k chwarelwr

Dydd Sul bydd:

  • Triathlon Safonol a Duathlon
  • Triathlon Legend

Mae'r pentref digwyddiad yn debygol o gau am tua 19:00 ar y ddau ddiwrnod. Manylir ar amseriadau digwyddiad penodol yn y Cyfarwyddiadau Terfynol sydd ar gael ar y wefan 10 diwrnod cyn y ras.

Rheoli Traffig a Chau ffyrdd

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl a sicrhau’r profiad gorau a mwyaf diogel i gystadleuwyr a gwylwyr, byddwn yn gofyn am ganiatâd i gau un ffordd dros dro ac yn gweithredu rheolaeth traffig ysbeidiol fel y nodir isod:

Dydd Sadwrn

  • cau Pass Llanberis rhwng maes parcio Nant Peris a'r gyffordd gyda'r A4086/A498 yng Ngwesty Pen y Gwryd. Ni fydd yr A498 yn cael ei effeithio.
  • gweithredu Stop/Ewch ar yr A4086 gyferbyn â'r Ganolfan, Llanberis.

Unwaith y bydd y beicwyr olaf wedi cyrraedd copa Pen y Pass o Ben y Gwryd ac ar eu ffordd yn ôl i Lanberis, bydd y ffordd yn cael ei hail-agor. Disgwylir y bydd hyn yn digwydd tua 12:00.

Dydd Sul

  • gweithredu Stop/Ewch ar yr A4086 gyferbyn â'r Ganolfan, Llanberis.

Byddwn yn anfon llythyr at yr holl drigolion yr effeithir arnynt chwe wythnos cyn dyddiad y digwyddiad. Bydd copi o'r llythyr hwnnw hefyd ar gael yma.

Parcio

Gwyddom y gall meysydd parcio ar gyfer ein hathletwyr roi pwysau ar y lleoedd cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer cartrefi a busnesau lleol, ac rydym yn gwneud hyn yn glir i’n hathletwyr. Yn ogystal ag arwyddion manwl yn y digwyddiad, rydym yn cyfleu pwysigrwydd parcio ystyriol yn ein Cyfarwyddiadau Terfynol, a anfonir cyn y digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys:

  • hyrwyddo rhannu ceir i athletwyr.
  • manylion ar sut i deithio i Lanberis ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • arwyddion i'r maes parcio a theithio gerllaw.
  • gwybodaeth fanwl am unrhyw fannau parcio digwyddiadau dynodedig y cytunwyd arnynt ymlaen llaw.
  • gwybodaeth am barcio cyfrifol dros nos.

Gwylio

Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau, i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.

Cymryd Rhan

Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.

Arwyddion a Sbwriel

Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.

Rydym yn argymell y mannau hyn ar gyfer gwylio'r digwyddiadau nofio.

Y dechrau / gorffen ar lan y dŵr

Byddai'r plato o dan Ysbyty'r Chwarel yn caniatáu ichi edrych i lawr ar y nofwyr

Mae croeso i chi ddod i mewn i bentref y digwyddiad i fwynhau'r awyrgylch ac ymweld â'n stondinau masnach.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar wylwyr oherwydd Covid-19.