Cymraeg

Gwybodaeth i Bobl Leol

Amseriadau a Chau Ffyrdd

Slateman Triathlon, Llanberis

Snowman Triathlon, Plas y Brenin

Sandman Triathlon, Coedwig Niwbwrch

Gwylio

Yn unol â Chanllawiau ac Arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru'r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, nid yw Gwylwyr yn cael eu hannog ar hyn o bryd yn ein digwyddiadau oherwydd Covid-19. Ewch i'n tudalen Covid-19 i weld y wybodaeth fwyaf diweddar ar sut y byddwn yn cyflwyno digwyddiad diogel covid.

Gobeithiwn groesawu gwylwyr yn ôl cyn gynted ag y gallwn a byddwn yn diweddaru gwybodaeth yma felly gwiriwch yn ôl yn agosach at y digwyddiad.

Cymryd Rhan

Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.

Arwyddion a Sbwriel

Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.

Gellir dod o hyd i fapiau o lwybrau'r athletwyr trwy glicio ar y pellteroedd rasio ar brif dudalen y digwyddiad. Rydym yn argymell y mannau hyn ar gyfer gwylio.

  • Mae'r rhediad terfynol jest tu allan i'r pentref digwyddiadau yn lle gwych i godi calon pobl.
  • Ar gyfer rhediad dydd Sadwrn mae ysbyty'r Chwarel yn lle eiconig i wylio'r cyffro a llonni pobl.
  • Ar gyfer rasys dydd Sul mae'r Siediau Hollti ar ben y Chwarel yn rhoi golygfa wych i chi a chyfle i godi calon y rhedwyr.
  • Mae yna wahanol encilfeydd ar y llwybrau beicio, fodd bynnag, gofynnwn i chi os ydych yn dewis gwylio ar y llwybr beicio, gyrrwch yn ofalus a bod yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y ffordd gan gynnwys y triathletwyr, a pharcio'n ddiogel oddi ar y ffordd.

Mae croeso i chi ddod i mewn i'r Pentref Digwyddiadau i fwynhau'r awyrgylch ac ymweld â'n stondinau masnach. Nid oes tâl i fynd i mewn.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar wylwyr oherwydd Covid-19.