Cymraeg

Amseriadau a Chau Ffyrdd

Slateman Triathlon, Llanberis - 12fed a 13eg o Fehefin 2021

Snowman Triathlon, Plas y Brenin - 31ain o Orffennaf a 1af o Awst 2021

Sandman Triathlon, Coedwig Niwbwrch - 18fed a 19eg o Fedi 2021

Gwylio

Yn unol â Chanllawiau ac Arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru'r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, nid yw Gwylwyr yn cael eu hannog ar hyn o bryd yn ein digwyddiadau oherwydd Covid-19. Ewch i'n tudalen Covid-19 i weld y wybodaeth fwyaf diweddar ar sut y byddwn yn cyflwyno digwyddiad diogel covid.

Gobeithiwn groesawu gwylwyr yn ôl cyn gynted ag y gallwn a byddwn yn diweddaru gwybodaeth yma felly gwiriwch yn ôl yn agosach at y digwyddiad.

Cymryd Rhan

Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.

Arwyddion a Sbwriel

Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.