The World's Steepest Street Run 2023 copy | Always Aim High

Cymraeg

Events / Rhedeg Ffyrdd

The World's Steepest Street Run 2023 copy

Ni all llawer o rediadau gynnwys adran sy'n torri record! Gyda graddiant uchaf o 37.45%, saethwyd Ffordd Pen LLech yn Harlech i enwogrwydd pan gipwyd y teitl 'World's Steepest Street' oddi wrth Baldwin Street yn Seland Newydd yn 2019.

Mae yna ddeg maen prawf y mae'n rhaid i stryd eu bodloni er mwyn cael ei hystyried fel y mwyaf serth, gan gynnwys gorfod bod yn dramwyfa gyhoeddus a chael wyneb llawn, yn ogystal â chael adeiladau wrth ochr y ffordd. Pan roddwyd Record Byd Guinness i Ffordd Pen Llech ac yn dilyn ymateb y deiliaid blaenorol yn Seland Newydd, fe heidiodd pobl ledled y byd i Harlech i gerdded, beicio neu hyd yn oed rolio i lawr y stryd - ni allwch guro ychydig o falchder Cymreig wedi'i gymysgu â thaenelliad o'r ecsentrig.

Gyda Harlech eisoes ar fap Digwyddiadau i Gamu i'r Copa fel y lleoliad ar gyfer ein triathlon sbrint a duathlon poblogaidd, dechreuodd pobl ofyn i ni gynnal ras ar y stryd - ac fe wnaethom ni wrando!

Bydd bod yn rhan o'r digwyddiad agoriadol hwn yn rhywbeth y byddwch chi'n dweud wrth bobl amdano am flynyddoedd lawer i ddod. Rydyn ni'n gobeithio gweld llawer o bobl yn cymryd rhan ac yn mwynhau penwythnos yn gymuned hardd a chyfeillgar Harlech.

Mae'r digwyddiad hwn yn Ddigwyddiad Cymunedol Camu i'r Copa. Mae elw o’n Digwyddiadau Cymunedol yn mynd tuag at gefnogi prosiectau lleol anhygoel a grwpiau cymunedol fel Clwb Triathlon Harlech, Cynghorau Cymuned leol, timau Achub Mynydd lleol gan gynnwys Tîm Achub Mynydd De Eryri, MRTs Ogwen, Aberglaslyn a Llanberis, ynghyd â llawer mwy o brosiectau cymunedol.

Dates

13 Apr 2024

Location

Harlech

Races

Dewis Eich Pellter

0222 03 0107 171147

Ras Mwyaf Serth y Byd 2023

6K

13 Apr 2024

Rhedeg: 6km

Find out more The Worlds Steepest Street Run 2023 copy

What's Included

Nick Beer 10k Event village

Pentref Digwyddiad Bywiog

Cerddoriaeth, sylwebaeth, siopa, bwyd, man i ollwng bagiau yn ddiogel a thoiledau

Nick Beer 10k winner

Addas i Bob Aelod o'r Teulu

Gorffeniadau teuluol a digon i'w weld a'i wneud

Nick Beer 10k Llandudno

Cymorth ar y Cwrs

Marsialiaid cyfeillgar, arwyddion, gorsafoedd ynni a cherbydau cefnogaeth

Conwy medals

Cofrodd Gorffen Unigryw

Wedi'i ddylunio'n hyfryd i adlewyrchu lleoliadau ein digwyddiadau a hanes lleol.

Conwy prom man arms out

Golygfeydd Syfrdanol

Golygfeydd ar draws Sir Fôn ac Eryri

Conwy couple crossing finish

Amseru Proffesiynol

Amseru 'chip' electronig

Event Partners

Amdan

Digwyddiadau Cyfrifol