Croeso i'r Hanner Marathon eiconig Jones O Gymru – Yr hanner marathon fwyaf prydferth yn y DU.
Mae'r llwybr yn donnog ac eto yn gyflym ond yn bennaf oll, mae'n hynod drawiadol. Gan ddechrau ar y Bont Borth eiconig ac yna rhedeg o flaen y cefndir hyfryd o Eryri, mae’r râs hon wir yn un o’i fath.
Mae’r râs yn darparu'r paratoad perffaith ar gyfer y marathon Llundain a Manceinion. Fel arall, mae’n gwrs tonnog a hardd gyda golygfeydd trawiadol - perffaith ar gyfer cyrraedd eich PB yn gynnar yn y tymor.
Mae'r 10k Ynys Môn hefyd yn dychwelyd yn 2019
Gwyboaeth
Mae Hanner Marathon Ynys Môn yn mynd a'r rhedwyr ar draws y Bont Borth enwog, yn rhydd o draffig, ac yn dilyn ffordd yr arfordir i’r Castell anhygoel ym Miwmares, ac yn ôl. Mae'r llwybr yn donnog ond eto cyflym (CR yn 67:23) yn bennaf oll, mae'n hynod o drawiadol. Dewch o hyd i'r map llwybr swyddogol yma:
* Mapometer yn darllen y cwrs fel 13.12 milltir ond peidiwch ag ofni! Mae wedi cael ei fesur yn swyddogol fel 13.1 milltir yn union!
Beth i’w ddisgwyl
Cofrestru i’r Hanner Marathon Ynys Môn ydi eich tocyn i redeg y llwybr hanner marathon harddaf y DU. Nid yn unig y dylech ddisgwyl llwybr i gofio, ond digwyddiad sy'n hynod o gyfeillgar a boblogaidd. Yn olaf, dylech ddisgwyl ras y byddech eisiau gweiddi amdano - yn 2016, dywedodd 98% o'r cystadleuwyr y byddent yn argymell y digwyddiad i ffrind neu aelod o'r teulu!
Dyma beth y byddwch yn ei gael ar gyfer eich ffi cystadlu...
Digwyddiad a drefnwyd proffesiynol ar ffyrdd caeedig
Tships amseru electronig
Medal bwrpasol anhygoel i wisgo gyda balchder!
Crys-T cotwm rhad ac am ddim ar gyfer yr holl gorffenwyr
Bag o greision wedi'u coginio â llaw yng Nghymru ar gyfer yr holl gorffenwyr! Darperir gan ein partneriaid pennawd, Jones o Gymru.
Cyfleuster toiled ar faes y digwyddiad
Marsialiaid cyfeillgar enwog
Cefnogaeth anhygoel o gwmpas y cwrs
Adloniant Teulu
Marcio llwybr llawn
Ffotograffiaeth
Gorsaf bwydo llinell derfyn wedi’i stocio’n llawn
Gorsafoedd ynni o gwmpas cwrs (gan gynnwys dŵr a maeth chwaraeon) - lleoli yn tua 3 milltir, 6 milltir, 9 milltir a 11 milltir.
Maes diogel ar gyfer eich bagiau
Cymorth brys
Tylino corff
Cerbyd cefnogi ‘sweep’
Adloniant
Bydd castell sboncio a gweithgareddau plant yno, felly dewch â'ch ffrindiau a'ch teulu i rannu eich diwrnod gyda chi.
Bydd adloniant pellach yn cael ei gadarnhau yn fuan!
Arlwyo
Bydd bwyd a diod poeth ac oer ar gael i'w prynu ar y diwedd ras.
Siop Camu i'r Copa
Peidiwch â phoeni os ydych yn anghofio unrhyw beth dros penwythnos y ras, oherwydd yn cofrestru a’r pentref digwyddiad (ardal gorffen) byddwn yn gwerthu nifer o gynnyrch rhedeg am brisiau gostyngol. Bydd y rhain yn cynnwys cynhyrchion maethol ‘High5’, cit rhedeg a nwyddau pwrpasol Camu I'r Copa.