Cymraeg

Amdanom Ni

Rydym bellach yn ein 13eg flwyddyn o Ddigwyddiadau Camu i'r Copa.

Dechreuodd fel hobi, dau ffrind gyda blynyddoedd o brofiad mewn chwaraeon a'i drefniadaeth, a syniad a gyflwynwyd i ni gan eraill yn ein cymuned. Dechreuon ni yn 2011 gyda thriathlonau Llanc y Llechi a Llanc y Tywod, un yn fy mhentref genedigol, Llanberis, a’r llall ym mhentref cartref Kenny yn Niwbwrch.

Am flynyddoedd, roeddwn i wedi bod yn teithio i ddigwyddiadau anhygoel gyda thîm Saab Salomon, ac nid oedd unrhyw beth tebyg i'r hyn a welais, yma yn y DU. Roedd pobl yn gofyn i ni ‘roi rhywbeth gwahanol ymlaen’ ac felly, wedi ein hysbrydoli gan yr hyn yr oeddem wedi’i weld ledled y byd, fe wnaethom benderfynu rhoi cyfle arni. Cymeryd y risg a ceisio.

Roedd ein hegwyddorion yn glir o'r dechrau a daethant yn ganllaw i ni wrth ddylunio ein digwyddiadau. Byddent yn cael eu harwain gan gwsmeriaid, yn cefnogi busnesau lleol trwy ‘brynu’n lleol’ ac arddangos lleoliadau hyfryd Gogledd Cymru. Yn y pen draw, byddai ein digwyddiadau'n cefnogi cymunedau lleol trwy roi hwb i'r economi a gwneud ein buddsoddiadau cymunedol uniongyrchol ein hunain. Hyd yma, rydym wedi rhoi dros £250,000 i elusennau a grwpiau lleol o ganlyniad uniongyrchol y digwyddiadau yn eu hardaloedd lleol. Yr egwyddorion yma sydd yn pennu ein gweithredoedd hyd heddiw.

Yn ystod y 13eg mlynedd diwethaf, rydym wedi cyflwyno cannoedd o ddigwyddiadau newydd sbon er mwynhad cannoedd ar filoedd o gyfranogwyr. Rydyn ni wedi dysgu cymaint ar hyd y ffordd, wedi mentro, buddsoddi mewn syniadau newydd, cysyniadau newydd, rasys newydd, a chreu swyddi - adeiladu tîm bach, clos sydd yr un mor angerddol ac ymroddedig â ni.

Trwy hyn i gyd rydym wedi cadw'n gadarn tuag at ein hegwyddorion craidd; gwrando ar y gymuned, gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar geisiadau cwsmeriaid a rhoi cynnig ar bethau! Mae ein digwyddiadau wedi tyfu, ond ar gofyn dyheadau'r ein cymunedau a'n hathletwyr rydym wedi glynu i drefnu rasys cymharol fach, unigryw a hardd.

Pwy a ŵyr beth fydd y dyfodol yn cynnig? Rydym yn siŵr y bydd hi'n ffordd garw (ond gobeithio dim mor arw â bandemic arall) ond gyda'n gilydd, efo ein tîm a chymuned Camu i'r Copa mae'n edrych yn gyffroes, gwahanol ac wrth gwrs, hyfryd.

Gwelwn ni chi ar y llinell gychwyn.

Tim & Kenny

Gallwch hefyd gael y diweddaraf o Ddigwyddiadau Camu i'r Copa trwy ein dilyn ar y wefannau cymdeithasol yma:

How to contact us

Os hoffech chi gysylltu â ni neu efo unrhyw sylwadau, byddem wrth ein bodd clywed gennych.

Cysylltwch â ni thrwy e-bost: info@alwaysaimhighevents.com neu ar y ffôn: 01248 723553

Always Aim High Store

Beth am ymweld â'n siop yn Llangefni? Gyda offer a cit gan Sports Pursuit a'n partneriaid, rydym yn stocio amrywiaeth wych o ddillad ac offer ar gyfer Triathlon, Rhedeg, Beicio a Nofio. Gallwch hefyd gael 10% oddi ar ein digwyddiadau trwy gofrestru yn y siop!

Ein cyfeiriad yw:
The Events Hub, Unites 3-4, Pen yr Orsedd Industrial Estate,Llangefni LL77 7AW