Triathlon | Pencampwriaethau Antur 2024
Pencampwriaethau Antur 2024 Triathlon Llanc y Llechi Legend
Am ddechrau! Rhan gyntaf y Pencampwriaethau Antur, Triathlon Llanc y Llechi yw'r Triathlon Antur fwyaf Eiconig yng Nghymru. Gan ddechrau yn Llanberis; calon treftadaeth ddiwydiannol Eryri mae hon yn ras ddigyffelyb sy'n cyfuno golygfeydd godidog â heriau epig. Mae 220 Tri Magazine wedi rhestru cwrs rhedeg Llanc y Llechi fel un o'r goreuon yn y byd!
Routes
Route Description
Mae'r llwybr beic y Legend yn profi rhai o'r golygfeydd mwyaf eiconig yng Ngogledd Cymru gan ddechrau efo nofio yn Llyn Padarn yng nghysgod yr Wyddfa wedi'i amgylchynu efo hanes y Chwareli Llechi ym mynyddoedd Cymru.
Dechreuwch y beic trwy ddringo Pen y Pass enwog Llanberis wrth ochr yr Wyddfa, cyn troi i'r dde i fyny tuag at Gapel Curig, cartref Canolfan Mynyddig Plas y Brenin. Efo golygfeydd o Lyn Mymbyr a Moel Siabod mae'r golygfeydd yn yr adran yma ddim i'w golli! Yn Gapel Curig byddech yn troi i'r chwith eto a beicio tuag at Fethesda gan fynd trwy baradwys fynyddig Cwm Ogwen. Byddech yn mynd heibio nifer o gopaon mwyaf enwog ac eiconig Cymru; Tryfan, Glyder Fach a Fawr a dechrau mynyddoedd y Carneddau. Cyn mynd i mewn i Fethesda yn iawn byddech yn troi i'r chwith tuag at Dregarth a gwneud eich ffordd ar hyd y llai bryniog ond dal heriol ystylau isaf. Ar y pwynt yma mae'r ffordd yn dargyfeirio o'r llwybr safonol a byddech yn troi i'r dde tuag at Gaernarfon. Fel yr ydych yn parhau ar hyd y cwrs tuag at Feddgelert gwnewch yn siŵr i gadw llygaid allan ar y chwith oherwydd rydych yn cylchfordeithio'r Wyddfa! Unwaith yr ydych trwy'r pentref hyfryd, henaidd o Feddgelert, rydych efo un sialens olaf i ddod. Mae'n rhaid iddych beicio i fyny'r Pass cul a throellog Nant Gwynant a dychwelyd i dop Pen y Pass. Gwnewch yn siŵr i gymryd i mewn rhai o'r golygfeydd mwyaf syfrdanol yn y wlad cyn eich disgyniad yr holl ffordd yn ôl i Lanberis a'r ardal pontio.
Mae rhediad Llanc y Llechi Legend yn dau lap o'r rhediad pellter safonol. Mae'r rhediad Llanc y Llechi yn dechrau yn gweddol hawdd ond dim llai prydferth na gweddill y llwybr gan cymryd i mewn Castell hanesyddol Dolbadarn, ond wrth i chi redeg heibio Llyn Peris wrth droed Chwarel Llechi Dinorwig, peidiwch â cholli'ch nerf pan welwch yr hyn sydd i ddod. Dringfa 2km i fyny'r 'zig-zags' trwy'r chwarel sydd yn sialens i'r anadl a'r coesau. Gan barhau trwy'r dirwedd anhygoel hon a gwneuthuriad gan ddyn am 1.5km arall, yna fe ddewch i'r disgyniad i'r goedwig. Ewch tuag at Fachwen a darn byr ar y ffordd, ac yna disgyniad serth unwaith eto i'r coed. Yna byddwch chi'n gwneud eich ffordd ar hyd llwybrau hyfryd Parc Padarn a heibio'r Heb Ysbyty Chwarel wrth i chi gyrraedd eich disgyniad olaf i lawr i'r cae a'r rownd derfynol yn syth i'r llinell derfyn, efallai y bydd gennych chi, erbyn hyn, ryw syniad o'r hyn ydyw yw bod yn Llanc y Llechi go iawn.
Prisio
Early Bird Price - Adventure Championships Legend (Slateman/Snowman/Sandman)
Diwedd: 08/10/2023
- £499.98
- Instalments available until 01/03/2024
Standard Price - Adventure Championships Legend (Slateman/Snowman/Sandman)
Diwedd: 27/05/2024
- £562.48
- Instalments available until 01/03/2024
Tier 3 - Adventure Series Legend (Slateman/Snowman/Sandman)
Diwedd: 07/06/2024
- £624.98
Gwybodaeth Pwysig
Isafswm Oed
Cofrestru
Amseroedd Cychwyn Tonnau
Amseroedd Pontio
Amseroedd Torri i Ffwrdd
Gwybodaeth Covid-19
Event Information
Other Triathlons
06 Apr 2025
Triathlon Eirias 2025
08 Jun 2025
Llanc y Llechi 2025
22 Jun 2025
Triathlon Caerdydd 2025
29 Sep 2024
Llandudno Triathlon 2024
14 Sep - 15 Sep 2024
Superfeet Sandman Triathlon 2024
01 Sep 2024
Triathlon Y Bala 2024
04 Aug 2024
Craft Snowman Triathlon 2024
09 Jun 2024
Slateman Triathlon 2024
We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.
Event Partners Adventure Championships Triathlon 2024
Amdan
Digwyddiadau Cyfrifol
Gweithio efo cymunedau lleol
Find out more about Gweithio efo cymunedau lleolGofalu am ein hamgylchedd
Find out more about Gofalu am ein hamgylcheddArferion Cynaliadwy
Find out more about Arferion Cynaliadwy