Cymraeg

Triathlon  | Caerdydd 2024

Caerdydd 2024 Triathlon Sbrint Byr

Bydd Triathlon Caerdydd yn mynd â chi ar daith fythgofiadwy trwy Fae eiconig Caerdydd. Mae'r ardal brydferth hon yn addas iawn ar gyfer profiad triathlon ysblennydd, ar gyfer rhedwyr a gwylwyr fel ei gilydd. A chydag ychwanegu'r digwyddiad yn cael ei gynnal ar ffyrdd cwbl gaeedig, mae'r cyfle yn unigryw ar gyfer digwyddiad fel hwn.

Dates

30 Jun 2024

Location

Caerdydd

Distances

Closing Date: 26.06.2024

ENTER NOW

Route Description

Dechreuwch eich ras efo'r cyfle unigryw i nofio ym Mae Caerdydd. Mae Bae Caerdydd yn cael ei gyflenwi gan ddwy afon i ffurfio llyn dŵr croyw 500 erw (2.0 km2) o amgylch hen ardal y dociau i'r dde o Ganol y Ddinas.

Mae eich llwybr beicio llawn hwyl a chyflymder a dim ond 10k ar ffyrdd hollol gaeedig. Byddech yn mynd allan o'r ardal Pontio yng nghysgod Canolfan Mileniwm Cymru a byddech yn mynd ar hyd Ffordd James i lawr Ffordd Ferry. Byddwch chi'n troi o gwmpas ar gylchdro archfarchnad Morrisons a hedfan yn ôl i fyny'r ffordd daethoch i lawr. Yna byddwch chi'n mynd ymlaen i lawr Rhodfa Lloyd George a phrofi gwefr ar gyflymder yr adran hon, troi o gwmpas wrth gyrraedd y top er mwyn hedfan i lawr y rhodfa unwaith eto. Mae'r lap yn gorffen yn y mynediad i'r 'Oval Basin' yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae rhediad y Sbrint Byr yn llwybr cyflym a gwastad allan ac yn ôl, sy'n dangos golygfeydd Bae Caerdydd ar hyd y ffordd. Byddech gyntaf yn mynd allan o'r ardal pontio tuag at yr Eglwys Norwegian ag ar hyd y llwybr beicio, gan gymryd i mewn y safleoedd treftadaeth ddiwydiannol y mae Caerdydd mor enwog amdanynt. Fydd eich man troi o gwmpas ar hyd y llwybr beicio heb fod ymhell o Adeilad Awdurdod yr Harbwr, mae'r llwybr yn ôl yn rhoi golygfeydd i chi o Adeilad Pierhead, Canolfan Mileniwm Cymru, y Senedd a chymaint mwy fel y bydd gennych ddigon i'ch cadw llawn cymhelliant wrth i chi fynd am eich PB! Ar ôl i chi gyrraedd Adeilad y Senedd, mae'n bryd gorffen eich sbrint; ar hyd Bute Place, rownd y gornel ac i mewn i'r llinell derfyn o flaen Canolfan Mileniwm Cymru gyda chroeso enwog Camu i'r Copa.

Prisio

Adar Cynnar - Unigolyn

Diwedd: 07/08/2023

  • £75.99

Pris Safynol - Unigolyn

Diwedd: 16/06/2024

  • £88.99

Tier 3

Diwedd: 27/06/2024

  • £93.99

Gwybodaeth Pwysig

Cofrestru

Amseroedd Cychwyn Tonnau

Pontio

Amseroedd Torri i Ffwrdd

Gwobrau

Gwybodaeth Covid-19

Closing Date: 26.06.2024

ENTER NOW

Are you in?

See Start List

Final Instructions

Will be sent out and available to download 1 week before the event.

We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.

Event Partners Triathlon Caerdydd 2024

Amdan

Digwyddiadau Cyfrifol