Routes
Route Description
Mae llwybr Ultra Llanc y Llechi yn dangos rhai o'r golygfeydd mwyaf eiconig yng Ngogledd Cymru, ac yn gwrs lle bod angen lefel uchel o ffitrwydd i'w gwblhau.
Mae'n dechrau gyda cymal nofio yn Llyn Padarn yng nghysgod yr Wyddfa sydd wedi'i amgylchynu efo hanes y Chwareli Llechi ym mynyddoedd Cymru.
Dechreuwch y beic trwy ddringo Pen y Pass enwog Llanberis wrth ochr yr Wyddfa, cyn troi i'r dde i fyny tuag at Gapel Curig, cartref Canolfan Mynyddig Plas y Brenin. Efo golygfeydd o Lyn Mymbyr a Moel Siabod mae'r golygfeydd yn yr adran yma ddim i'w golli! Yn Gapel Curig byddech yn troi i'r chwith eto a beicio tuag at Fethesda gan fynd trwy baradwys fynyddig Cwm Ogwen. Byddech yn mynd heibio nifer o gopaon mwyaf enwog ac eiconig Cymru; Tryfan, Glyder Fach a Fawr a dechrau mynyddoedd y Carneddau. Cyn mynd i mewn i Fethesda yn iawn byddech yn troi i'r chwith tuag at Dregarth a gwneud eich ffordd ar hyd y llai bryniog ond dal heriol ystylau isaf. Ar y pwynt yma mae'r ffordd yn dargyfeirio o'r llwybr safonol a byddech yn troi i'r dde tuag at Gaernarfon. Fel yr ydych yn parhau ar hyd y cwrs tuag at Feddgelert gwnewch yn siŵr i gadw llygaid allan ar y chwith oherwydd rydych yn cylchfordeithio'r Wyddfa! Unwaith yr ydych trwy'r pentref hyfryd, henaidd o Feddgelert, rydych efo un sialens olaf i ddod. Mae'n rhaid iddych beicio i fyny'r Pass cul a throellog Nant Gwynant a dychwelyd i dop Pen y Pass. Gwnewch yn siŵr i gymryd i mewn rhai o'r golygfeydd mwyaf syfrdanol yn y wlad cyn eich disgyniad yr holl ffordd yn ôl i Lanberis a'r ardal pontio. Ond, peidiwch ag ymlacio ry fuan...byddwch yn cael eich troi nol a bydd rhaid cwblhau y cwrs eil-dro cyn mentro ar y cymal rhedeg!
Mae rhediad Ultra Llanc y Llechi yn lwybr lle bydd rhaid cwblhau lapiau. Mae'r rhediad Llanc y Llechi yn dechrau yn gweddol hawdd ond dim llai prydferth na gweddill y llwybr gan cymryd i mewn Castell hanesyddol Dolbadarn, ond wrth i chi redeg heibio Llyn Peris wrth droed Chwarel Llechi Dinorwig, peidiwch â cholli'ch nerf pan welwch yr hyn sydd i ddod. Dringfa 2km i fyny'r 'zig-zags' trwy'r chwarel sydd yn sialens i'r anadl a'r coesau. Gan barhau trwy'r dirwedd anhygoel hon a gwneuthuriad gan ddyn am 1.5km arall, yna fe ddewch i'r disgyniad i'r goedwig. Ewch tuag at Fachwen a darn byr ar y ffordd, ac yna disgyniad serth unwaith eto i'r coed. Yna byddwch chi'n gwneud eich ffordd ar hyd llwybrau hyfryd Parc Padarn a heibio'r Heb Ysbyty Chwarel wrth i chi gyrraedd eich disgyniad olaf i lawr i'r cae a'r trofan lapio lle bydd rhaid i chi ddechrau eto!
Os yr ydych yn llwyddo i gwblhau tair lap o'r llwybr cyn 6:30y.h., cewch gyfle i goncro cymal Mynydd y rhediad, gan ddringo Yr Wyddfa. Fel arall, cewch anelu am yr orffeniad Chwarel drwy gwblhau pedwerydd lap o llwybr Chwarel Llechi Dinorwig. Bydd unrhywun sydd yn cwblhau oleiaf 2 lap yn derbyn gwobr gorffeniad Llechan.
Prisio
Pris Lansio - Unigolyn
Diwedd: 27/10/2024
- £349.99
- Instalment Plan Available until 1/3/25
Pris Safonol - Unigolyn
Diwedd: 25/05/2025
- £399.99
- Instalment Plan Available until 1/3/24
Pris Haen 3 - Unigolyn
Diwedd: 06/06/2025
- £449.99
Gwybodaeth Pwysig
Beth allwn i ddisgwyl?
Rheolau y Ras
Isafswm Oed
Cofrestru
Amseroedd Cychwyn
Amseroedd Pontio
Amseroedd Torri i Ffwrdd
Cit Hanfodol
Event Information
Digwyddiadau Cysylltiedig
We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.
Event Partners Triathlon Llanc y Llechi 2025
Amdan
Digwyddiadau Cyfrifol
Gweithio efo cymunedau lleol
Find out more about Gweithio efo cymunedau lleolGofalu am ein hamgylchedd
Find out more about Gofalu am ein hamgylcheddArferion Cynaliadwy
Find out more about Arferion Cynaliadwy