Cymraeg

Rhedeg Llwybr  | Ogwen | Yr Helgi Du 2025

Ogwen | Yr Helgi Du 2025 Rhedeg Llwybr 25k

Dates

02 Aug 2025

Location

Plas y Brenin, Eryri

Distances

Routes

Route Description

Gan ddechrau a gorffen ym Mhlas y Brenin mae’r llwybr yn cychwyn gydag ychydig o filltiroedd cyflym a gwastad ar hyd Llwybr Llechi Eryri.

Bydd hyn yn dynesiad tuag at y rhedeg technegol, sy'n dechrau gydag esgyniad o Ben yr Ole Wen (978m). Mae gan yr esgyniad hwn tua 700m o gynnydd uchder dros 2 filltir, ac mae'n cynnwys darn byr o sgramblo hawdd. Nid yw'r adran hon yn dechnegol heriol ond bydd angen lefel digonol o ffitrwydd rhedeg. Peidiwch â diystyru dringfa Pen yr Ole Wen na harddwch y golygfeydd draw i Dryfan (yn amodol ar y tywydd!).

Mae’r 3 milltir nesaf yn gyfres o esgyniadau a disgynfeydd godidog ar draws crib y Carneddau, Fach (960m), Dafydd (1044m) a Llewelyn (1064m). Mae'r llwybrau i gyd yn ddigon hawdd eu rhedeg nes i chi ddisgyn i'r De-ddwyrain o Llewelyn lle bydd angen i chi scramblo i lawr yn ofalus. Mae'n adran fer ac eto, yn dechnegol eithaf syml. Mae hyn yn arwain at yr esgyniad olaf, i fynnu Pen yr Helgi Du. Mae’r ddringfa i’r copa yn golygu mwy o sgramblo hawdd a chewch eich gwobrwyo â golygfeydd o’r Glyderau, gan gynnwys Tryfan, a Chwm Llugwy.

Mae'r disgyniad wedi cael ei wneud ar gyfer rheini sydd yn hoff o redeg lawr mynyddoedd. Mae'n gyflym, esmwyth ac yn bennaf ar lwybrau glaswellt. Ychydig filltiroedd eto ar hyd yr hen lôn rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen, a byddwch yn ôl ym Mhlas y Brenin gyda gwên enfawr ar eich wyneb. Byddwch yn gwybod eich bod wedi cael diwrnod caled ond gwerth chweil yn y mynyddoedd.

Prisio

Pris Lansio

Diwedd: 08/09/2024

  • £44.99

Pris Safonol

Diwedd: 02/02/2025

  • £49.99

Pris Haen 3

Diwedd: 27/07/2025

  • £52.99

Pris Mynediad Hwyr

Diwedd: 31/07/2025

  • £55.99

Gwybodaeth Pwysig

Beth sydd ar gael

Oed

Cit Gorfodol

Cofrestru

Amser Dechrau

Amseroedd Torri i Ffwrdd

Gwobrau

Are you in?

See Start List

Final Instructions

Available now

We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.

Event Partners Ogwen | Yr Helgi Du 2025

Amdan

Digwyddiadau Cyfrifol