Cymraeg

Rhedeg Llwybr  | Ogwen | Yr Helgi Du 2025

Ogwen | Yr Helgi Du 2025 Rhedeg Llwybr 40K

Dates

02 Aug 2025

Location

Plas y Brenin, Eryri

Distances

EVENT OVER

Routes

Route Description

Gan ddechrau a gorffen ym Mhlas y Brenin mae’r llwybr yn cychwyn gydag ychydig filltiroedd cyflym a gwastad ar hyd Llwybr Llechi Eryri.

Mae hyn yn gweithredu fel dynesiad at y rhedeg technegol, sy'n dechrau drwy croesi rhan o Dryfan ac ymlaen i'r Glyderau wrth basio Castell y Gwynt ar draws ochrau greigiog. Byddwch yn disgyn lawr i Llyn y Cwm cyn dringo nol fyny Y Garn (947m), gyda golygfeydd syfrdanol ar draws Dyffryn Ogwen, cyn disgyn nol lawr i Bwthyn Ogwen ac ar draws sylfaen y dyffryn cyn ddringfa hegar fyny Pen yr Ole Wen (978m). Mae gan yr esgyniad hwn tua 700m o gynnydd uchder dros 2 filltir, ac mae'n cynnwys darn byr o sgramblo hawdd. Nid yw'r adran hon yn dechnegol heriol ond bydd angen lefel digonol o ffitrwydd rhedeg.

Mae’r 3 milltir nesaf yn gyfres o esgyniadau a disgynfeydd godidog ar draws crib y Carnedd Bach (960m), Dafydd (1044m) a Llewelyn (1064m). O gopa Llewelyn, mae yno darn allan ac yn nol i Yr Elen (962m). Mae'r llwybrau i gyd yn ddigon hawdd eu rhedeg nes i chi ddisgyn i'r De-ddwyrain o Llewelyn. Mae'n adran fer ac eto, yn dechnegol eithaf syml. Mae hyn yn arwain at yr esgyniad olaf, i fyny Pen yr Helgi Du. Mae’r ddringfa i’r copa yn golygu mwy o sgramblo hawdd a chewch eich gwobrwyo â golygfeydd o’r Glyderau, gan gynnwys Tryfan, a Chwm Llugwy.

Mae'r disgyniad wedi cael ei wneud ar gyfer rheini sydd yn hoff o redeg lawr mynyddoedd. Mae'n gyflym, esmwyth ac yn bennaf ar lwybrau glaswellt. Ychydig filltiroedd eto ar hyd yr hen lôn rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen, a byddwch yn ôl ym Mhlas y Brenin gyda gwên enfawr ar eich wyneb. Byddwch yn gwybod eich bod wedi cael diwrnod caled ond gwerth chweil yn y mynyddoedd.

Prisio

Pris Lansio

Diwedd: 08/09/2024

  • £69.99

Pris Safonol

Diwedd: 02/02/2025

  • £74.99

Pris Haen 3

Diwedd: 27/07/2025

  • £77.99

Pris Haen 4

Diwedd: 31/07/2025

  • £80.99

Gwybodaeth Pwysig

Beth sydd ar gael

Oed

Cit Gorfodol

Cofrestru

Amser Dechrau

Amseroedd Torri i Ffwrdd

Gwobrau

EVENT OVER

Are you in?

See Start List

Final Instructions

Available now

We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.

Event Partners Ogwen | Yr Helgi Du 2025

Amdan

Digwyddiadau Cyfrifol