06 Apr 2025
Triathlon | Duathlon | Pencampwriaethau Antur 2025
Pencampwriaethau Antur 2025 Llanc y Tywod Safonol
Rhan olaf y Pencampwriaethau Antur a diweddglo addas iawn - disgrifiwyd Llanc y Tywod fel y triathlon harddaf yng nghalendr y ras.
Mae'r ras yn cychwyn ac yn gorffen yn un o mannau mwyaf trysoredig Ynys Môn, Coedwig anhygoel Niwbwrch. Ardal unigryw o goedwigoedd 700ha ger Traeth byd-enwog Llanddwyn.
Fel un o'r cynifer o triathlonau yn y calendr sydd yn cychwyn ar y traeth wrth nofio yn y môr, gall eich cefnogwyr adeiladu cestyll tywod a bwyta hufen iâ wrth i chi rasio!
Llanc y Tywod yw rhan olaf y Pencampwriaethau Antur. Cofrestrwch i'r Bencampwriaeth ac mae'r digwyddiad hwn 50% rhatach nag os ydych yn cofrestru fel ras ar ei phen ei hun.
Route Description
Drwy ddechrau ar y traeth a cymal nofio yn y môr, mae rhengu ar draeth gogoneddus Niwbwrch yn deimlad bythgofiadwy. Mae'r nofio yn lwybr allan ac yn ôl syml, ond y cefnfor fydd yn penderfynu eich ffawd; byddwch chi'n sefyll yn erbyn dyfroedd tawel neu donnau mwy garw...does dim dweud!
Peidiwch â chredu'r sibrydion bod yr Ynys hon yn wastad! Mae yna ddigon o ddringfeydd a disgyniadau ar y llwybr beic i'ch cadw ar flaenau eich traed. Gan ddechrau o'r cyfnod pontio yng nghanol Coedwig Niwbwrch, rydych chi'n dringo i fyny i bentref Niwbwrch ac yn troi dde. Gan fynd ar hyd troadau ysgubol a mannau syth cyflym, byddwch yn troi i’r chwith cyn y pentref adnabyddusLlanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch ac ymlaen i’r A5. Mae’r ffordd hanesyddol yma yn eich tywys heibio pentrefi traddodiadol a chaeau gwyrdd cyn troi i’r chwith am yr arfordir a’i golygfeydd syfrdanol. Byddwch yn beicio yn nol trwy Malltraeth am Niwbwrch, ac yn disgyn nol trwy’r goedwig unwaith eto, yn barod i wisgo eich esgidiau rhedeg.
Mae'r rhediad yn digwydd ar lwybrau garw Coedwig Niwbwrch. Mae rhedeg trwy'r coed ac i lawr ar hyd y twyni tywod yn fendigedig ac yn wyllt, gyda golygfeydd anhygoel o’r môr ac Eryri yn y pellter. Mae'r 1.5km olaf bron yn gyfan gwbl ar dywod, yn sicr daw mwy o foddhad i'r cyflawniad wedi hyn!
Prisio
Pris Lansio - Pencampwriaethau Antur Safonol (Slateman/Snowman/Sandman)
Diwedd: 13/10/2024
- £239.98
- Instalments available until 01/03/2025
Pris Safonol - Pencampwriaethau Antur Safonol (Slateman/Snowman/Sandman)
Diwedd: 25/05/2025
- £264.98
- Instalments available until 01/03/2025
Pris Haen 3 - Pencampwriaethau Antur Safonol (Slateman/Snowman/Sandman)
Diwedd: 05/06/2025
- £289.98
Gwybodaeth Pwysig
Isafswm Oed
Cofrestru
Amseroedd Cychwyn
Pontio
Amseroedd Torri i Ffwrdd
Gwobrau
We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.
Event Partners Pencampwriaethau Antur 2025
Amdan
Digwyddiadau Cyfrifol
Gweithio efo cymunedau lleol
Find out more about Gweithio efo cymunedau lleolGofalu am ein hamgylchedd
Find out more about Gofalu am ein hamgylcheddArferion Cynaliadwy
Find out more about Arferion Cynaliadwy