Cymraeg

 | Pencampwriaethau Antur Sbrint 2025

Pencampwriaethau Antur Sbrint 2025 Sbrint Llanc y Llechi

Triathlon llanc y Llechi yw'r rhan gyntaf o'r Pencampwriaethau Antur, ac am ddechrau yw hi hefyd! Hon yw'r Triathlon Antur fwyaf eiconig yng Nghymru. Gan ddechrau yn Llanberis; calon treftadaeth ddiwydiannol Eryri, mae'r ras hon yn ddigyffelyb ac yn cyfuno golygfeydd godidog gyda heriau epig. Mae 220 Tri Magazine wedi rhestru cwrs Llanc y Llechi fel un o'r goreuon yn y byd!

Dates

08 Jun 2025

Location

Llanberis

Distances

Details coming soon

Route Description

Nofiwch yn Llyn Padarn yng nghysgod yr Wyddfa wedi'i amgylchynu yn hanes y Chwareli Llechi ym mynyddoedd Cymru.

Beiciwch wrth ochr yr Wyddfa, gan ddringo pass enwog Mynydd Llanberis. I ddechrau, byddwch yn beicio heibio Chwarel Llechi hanesyddol Dinorwig ag yna trwy Nant Peris; fel mae'r ddringfa yn dechrau llosgi mi fydd eich sylw yn cael ei gwrthdynnu gan olygfeydd anhygoel y mynyddoedd sydd o'ch cwmpas. Eich man troi yw'r Gwesty enwog Pen y Gwryd lle fu Hilary a Tenzing yn hyfforddi i ddringo Mynydd Everest. Mae un frwydr allt olaf yn nôl i dop Pen y Pass, ag yna byddwch yn disgyn yr holl ffordd yn ôl i Lanberis a'r ardal pontio gyda golygfeydd yr holl ffordd i Sir Fôn. Mae'r adran o Nant Peris i Ben y Gwryd ag yn ôl ar ffyrdd hollol gaeedig gan gynnig cyfle anrhechadwy i feicio ar y Pass enwog heb draffig yn pasio.

Mae digon o hanes ar y rhediad anodd i gadw chi llawn gymhelliant pan fu eich coesau yn cwyno. Gan redeg ar rhai o'r llwybrau gorau yn y byd, byddwch yn mynd heibio Chwarel Vivian, a tuag at Dinorwig, cyn dechrau adran fer ar y lon tuag at Fachwen. Byddech yna yn troi i lawr allt yn serth trwy goedwig hyfryd, efo cipolygon o'r Wyddfa, heibio'r Ysbyty Chwarel ag yn ôl adref trwy gaeau i'r llinell derbyn lle mae croeso cynnes i chi gan Gamu i'r Copa

Prisio

Pris Lansio - Pencampwriaeth Antur Sbrint (Slateman/Snowman/Sandman)

Diwedd: 13/10/2024

  • £212.48
  • Instalments available until 01/03/2025

Pris Safonol - Pencampwriaeth Antur Sbrint (Slateman/Snowman/Sandman)

Diwedd: 25/05/2025

  • £224.98
  • Instalments available until 01/03/2025

Pris Haen 3 - Pencampwriaeth Antur Sbrint (Slateman/Snowman/Sandman)

Diwedd: 05/06/2025

  • £247.48

Gwybodaeth Pwysig

Oed

Cofrestru

Amseroedd Cychwyn Tonnau

Pontio

Amseroedd Torri i Ffwrdd

Details coming soon

Are you in?

Start List soon

Final Instructions

Will be sent out and available to download 1 week before the event.

Event Information

We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.

Amdan

Digwyddiadau Cyfrifol