Cymraeg

 | Pencampwriaethau Antur Sbrint 2025

Pencampwriaethau Antur Sbrint 2025 Sbrint Llanc y Tywod

Rhan olaf y Pencampwriaethau Antur a diweddglo addas iawn - disgrifiwyd Llanc y Tywod fel y triathlon harddaf yng nghalendr y ras.

Mae'r ras yn cychwyn ac yn gorffen yn un o mannau mwyaf trysoredig Ynys Môn, Coedwig anhygoel Niwbwrch. Ardal unigryw o goedwigoedd 700ha ger Traeth byd-enwog Llanddwyn.

Fel un o'r cynifer o triathlonau yn y calendr sydd yn cychwyn ar y traeth wrth nofio yn y môr, gall eich cefnogwyr adeiladu cestyll tywod a bwyta hufen iâ wrth i chi rasio!

Llanc y Tywod yw rhan olaf y Pencampwriaethau Antur. Cofrestrwch i'r Bencampwriaeth ac mae'r digwyddiad hwn 50% rhatach nag os ydych yn cofrestru fel ras ar ei phen ei hun.

Dates

20 Sep 2025

Location

Distances

Details coming soon

Route Description

Drwy ddechrau ar y traeth a cymal nofio yn y môr, mae rhengu ar draeth gogoneddus Niwbwrch yn deimlad bythgofiadwy. Mae'r nofio yn lwybr allan ac yn ôl syml, ond y cefnfor fydd yn penderfynu eich ffawd; byddwch chi'n sefyll yn erbyn dyfroedd tawel neu donnau mwy garw...does dim dweud!

Peidiwch â chredu'r sibrydion bod yr Ynys hon yn wastad! Mae yna ddigon o ddringfeydd a disgyniadau ar y llwybr beic i'ch cadw ar flaenau eich traed. Gan ddechrau o'r cyfnod pontio yng nghanol Coedwig Niwbwrch, rydych chi'n dringo i fyny i bentref Niwbwrch ac yn troi dde. Gan fynd ar hyd troadau ysgubol a mannau syth cyflym, byddwch yn mynd i'r chwith tuag at Langaffo lle mae'r ffyrdd yn amlwg yn gulach ac yn haeddu rhywfaint o barch. Gan lifo i lawr trwy'r corstiroedd tuag at Falltraeth byddwch wedyn yn troi i'r chwith eto yn ôl i'r briffordd i gyfeiriad Niwbwrch. Disgynnwch i lawr ffordd y goedwig unwaith eto ac i'r cyfnod pontio yn barod i wisgo eich esgidiau rhedeg.

Mae'r rhediad yn digwydd ar lwybrau garw Coedwig Niwbwrch. Mae rhedeg trwy'r coed ac i lawr ar hyd y twyni tywod yn fendigedig ac yn wyllt. Mae'r 1.5km olaf bron yn gyfan gwbl ar dywod, yn sicr daw mwy o foddhad i'r cyflawniad wedi hyn!

Prisio

Pris Lansio - Pencampwriaethau Antur Sbrint (Slateman/Snowman/Sandman)

Diwedd: 13/10/2024

  • £212.48
  • Instalments available until 01/03/2025

Pris Safonol - Pencampwriaethau Antur Sbrint (Slateman/Snowman/Sandman)

Diwedd: 25/05/2025

  • £224.98
  • Instalments available until 01/03/2025

Pris Haen 3 - Pencampwriaethau Antur Sbrint (Slateman/Snowman/Sandman)

Diwedd: 05/06/2025

  • £247.48

Gwybodaeth Pwysig

Isafswm Oedran

Cofrestru

Amseroedd Cychwyn

Pontio

Amseroedd Torri i Ffwrdd

Gwobrau

Details coming soon

Are you in?

See Start List

Final Instructions

Will be sent out and available to download 1 week before the event.

Event Information

We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.

Amdan

Digwyddiadau Cyfrifol