Cymraeg

Triathlon  | Llanc y Llechi 2024

Llanc y Llechi 2024 Triathlon Legend

Dates

09 Jun 2024

Location

Llanberis

Distances

Routes

Route Description

Mae'r llwybr beic y Legend yn profi rhai o'r golygfeydd mwyaf eiconig yng Ngogledd Cymru gan ddechrau efo nofio yn Llyn Padarn yng nghysgod yr Wyddfa wedi'i amgylchynu efo hanes y Chwareli Llechi ym mynyddoedd Cymru.

Dechreuwch y beic trwy ddringo Pen y Pass enwog Llanberis wrth ochr yr Wyddfa, cyn troi i'r dde i fyny tuag at Gapel Curig, cartref Canolfan Mynyddig Plas y Brenin. Efo golygfeydd o Lyn Mymbyr a Moel Siabod mae'r golygfeydd yn yr adran yma ddim i'w golli! Yn Gapel Curig byddech yn troi i'r chwith eto a beicio tuag at Fethesda gan fynd trwy baradwys fynyddig Cwm Ogwen. Byddech yn mynd heibio nifer o gopaon mwyaf enwog ac eiconig Cymru; Tryfan, Glyder Fach a Fawr a dechrau mynyddoedd y Carneddau. Cyn mynd i mewn i Fethesda yn iawn byddech yn troi i'r chwith tuag at Dregarth a gwneud eich ffordd ar hyd y llai bryniog ond dal heriol ystylau isaf. Ar y pwynt yma mae'r ffordd yn dargyfeirio o'r llwybr safonol a byddech yn troi i'r dde tuag at Gaernarfon. Fel yr ydych yn parhau ar hyd y cwrs tuag at Feddgelert gwnewch yn siŵr i gadw llygaid allan ar y chwith oherwydd rydych yn cylchfordeithio'r Wyddfa! Unwaith yr ydych trwy'r pentref hyfryd, henaidd o Feddgelert, rydych efo un sialens olaf i ddod. Mae'n rhaid iddych beicio i fyny'r Pass cul a throellog Nant Gwynant a dychwelyd i dop Pen y Pass. Gwnewch yn siŵr i gymryd i mewn rhai o'r golygfeydd mwyaf syfrdanol yn y wlad cyn eich disgyniad yr holl ffordd yn ôl i Lanberis a'r ardal pontio.

Mae rhediad Llanc y Llechi Legend yn dau lap o'r rhediad pellter safonol. Mae'r rhediad Llanc y Llechi yn dechrau yn gweddol hawdd ond dim llai prydferth na gweddill y llwybr gan cymryd i mewn Castell hanesyddol Dolbadarn, ond wrth i chi redeg heibio Llyn Peris wrth droed Chwarel Llechi Dinorwig, peidiwch â cholli'ch nerf pan welwch yr hyn sydd i ddod. Dringfa 2km i fyny'r 'zig-zags' trwy'r chwarel sydd yn sialens i'r anadl a'r coesau. Gan barhau trwy'r dirwedd anhygoel hon a gwneuthuriad gan ddyn am 1.5km arall, yna fe ddewch i'r disgyniad i'r goedwig. Ewch tuag at Fachwen a darn byr ar y ffordd, ac yna disgyniad serth unwaith eto i'r coed. Yna byddwch chi'n gwneud eich ffordd ar hyd llwybrau hyfryd Parc Padarn a heibio'r Heb Ysbyty Chwarel wrth i chi gyrraedd eich disgyniad olaf i lawr i'r cae a'r rownd derfynol yn syth i'r llinell derfyn, efallai y bydd gennych chi, erbyn hyn, ryw syniad o'r hyn ydyw yw bod yn Llanc y Llechi go iawn.

Prisio

Early Bird - Individual

Diwedd: 16/07/2023

  • £199.99
  • Instalment Plan Available until 1/3/24

Pris Safynol - Unigolyn

Diwedd: 26/05/2024

  • £224.99
  • Instalment Plan Available until 1/3/24

Early Bird - Team

Diwedd: 07/06/2024

  • £249.99

Gwybodaeth Pwysig

Isafswm Oed

Cofrestru

Amseroedd Cychwyn Tonnau

Amseroedd Pontio

Amseroedd Torri i Ffwrdd

Gwybodaeth Covid-19

Are you in?

See Start List

Final Instructions

Will be sent out and available to download 1 week before the event.

We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.

Event Partners Slateman Triathlon 2024

Amdan

Digwyddiadau Cyfrifol