Croeso i'n sportif hollol hyfryd o amgylch Ynys Môn

Events / Beicio
Tour de Môn 2025
Mae'r sportif yma yn eich tywys o amgylch ynys brydferth Môn Mam Cymru, neu Ynys Môn i fwyafrif. Mae dros 1000 o feicwyr yn ymuno â ni yn flynyddol, gyda'r digwyddiad wedi tyfu i fod yn uchafbwynt yn y calendr i feicwyr a phobl leol sydd yn mwynhau cefnogi a thaenu anogaeth gynnes, Gymreig.
Cewch gyfle i brofi rhai o'r golygfeydd mwyaf syfrdanol ar draws Ynys Môn ac Eryri drwy seiclo ar hyd llawer o lonydd arfordirol. Hefyd, cymrwch gyfle i wynebu'r cloc wrth gwblhau'r 'Flying Mile' ar redfa RAF Fali, lle byddwch yn cael seiclo ar lôn cwbl gaeedig; profiad hollol ddihafal.
O glybiau, i deuluoedd, a rheini sydd yn beicio ar gyfer elusennau, mae'r digwyddiad hwn yn un gyfeillgar gyda beicwyr o bob oedran a gallu yn ceisio trechu'r her.
Mae Tour de Môn 2025 yn cefnogi Elusen Plant Alder Hey. Mae Ysbyty Alder Hey yn gofalu am 450,000 o fabanod, plant a phobl ifanc bob blwyddyn, gan gynnwys 3257 o blant dewr iawn o Ogledd Cymru eleni oedd angen gofal arbenigol. Os hoffwch chi godi arian tuag at yr elusen arbennig hon, ticiwch y bocs ar eich ffurflen wrth archebu lle. Mae pob ceiniog yn cyfri felly nid oes lleiafswm o arian i gasglu - bydd unrhyw un sydd yn ymrwymo i godi mwy na £200 yn derbyn crys-T am ddim gan yr elusen.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ceisio am le elusennol am ddim yn y digwyddiad hwn (lleiafswm nawdd o £200), cysylltwch â joanne.bartels@alderhey.nhs.uk
Dewis Eich Pellter
Tour de Môn
Teulu
17 Aug 2025
Beic: 3.5 milltir

Tour de Môn
Bach
17 Aug 2025
Beic: 46 Milltir

Tour de Môn
Canol
17 Aug 2025
Beic: 77 Milltir

Tour de Môn
Mawr
17 Aug 2025
Beic: 106 milltir
What's Included

Pentref Digwyddiad Bywiog
Cerddoriaeth, sylwebaeth, bwyd a diod, siopa a thoiledau

Addas i Bob Aelod o'r Teulu
Taith deuluol a llawer i'w gweld a'i wneud

Cymorth ar y Cwrs
Marsialiaid cyfeillgar, arwyddion, gorsafoedd adfer a cherbydau cymorth

Cofrodd Gorffen Unigryw
Wedi'i ddylunio'n hyfryd i adlewyrchu lleoliadau ein digwyddiadau a hanes lleol

Amseru Proffesiynol
Amseru 'chip' electronig

Golygfeydd Syfrdanol
Ar draws Ynys Môn ac Eryri

“Excellent event, one of my favourite sportive routes (now!). Thanks to all the marshals that cheered and waved, that was much appreciated.”
Cyfranogwr
Event Information

Tour de Môn 2025
Cwestiynau Cyffredin (FAQs)

Tour de Môn 2025
Teithio & Llety

Tour de Môn 2025
Gwybodaeth i Bobl Lleol

Tour de Môn 2025
Gwirfoddoli

Tour de Môn 2025
Galeri

Tour de Môn 2025
Adroddiadiadau Ras
We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.
Event Partners
Amdan
Digwyddiadau Cyfrifol
Gweithio efo cymunedau lleol
Find out more about Gweithio efo cymunedau lleolGofalu am ein hamgylchedd
Find out more about Gofalu am ein hamgylcheddArferion Cynaliadwy
Find out more about Arferion Cynaliadwy