Cymraeg

Teithio a Llety

Teithio i Eirias

Mae gan Parc Eirias, Bae Colwyn, gysylltiadau trafnidiaeth dda ac mae'n hawdd dod o hyd iddo. Defnyddiwch y cod post LL29 8HF i leoli pentref y digwyddiad.

Tren

Mae gwasanaethau uniongyrchol (gan gynnwys Virgin Trains o Lundain i Fangor) yn mynd â chi i gyrchfannau arfordirol poblogaidd Gogledd Cymru o'r rhan fwyaf o Brydain. Mae gwasanaethau o Ganolbarth Lloegr trwy Shrewsbury a Machynlleth yn cysylltu â Llinell Cambrian.

Mae Gorsaf Trên Bae Colwyn yn 0.8 milltir i ffwrdd o Barc Eirias, hon yw'r orsaf agosaf. Mae gwasanaethau rheolaidd ar hyd llinell Gogledd Cymru o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn.

National Rail
03457 48 49 50

Transport For Wales
0333 3211 202

Car

Mae mynediad cyflym a syml o'r Gogledd Orllewin ar hyd yr M56 a'r A55. Mae cysylltiadau traffordd â Chanolbarth Lloegr yn dda hefyd, ac mae'r un ffyrdd - yr M6, M5 a'r M1 - hefyd yn dod a Bae Colwyn & Parc Eirias o fewn cyrraedd rhwydd o Dde Lloegr.

Mae cyrraedd Parc Eirias yn weddol syml os ydych chi'n gyrru o arfordir Gogledd Cymru. Y ffordd fwyaf uniongyrchol yw dilyn yr A55 i Gyffordd 21, sydd wedi ei arwyddo fel Bae Colwyn, cyn dilyn y B5113 a Ffordd Abergele i fynediad y stadiwm.

Awyr

Mae trosglwyddiadau o byrth rhyngwladol Manceinion, Lerpwl a Birmingham yn cymryd oddeutu 2.5 awr.

Manchester Airport
08712 710711

Liverpool John Lennon Airport
08715 218484

Birmingham Airport
0871 2220072

Ble i aros

Mae Bae Colwyn wedi bod yn denu ymwelwyr ers yr oes Fictoria, ond tydi hyn heb rwystro'r dref rhag datblygu dros amser. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r lan ger y môr wedi cael ei drawsnewid gyda dyfodiad y datblygiad newydd; Porth Eirias (nawr yn gartref i Bistro newydd y cogydd Michelin Bryn Williams) a llwybr cerdded i Landrillo-yn-rhos. Mae amryw o ddewis am lefydd i aros, mae rhai wedi awgrymu isod:

Ceisiwch archebu eich llety mor fuan â phosib. Mae'n debyg iawn bydd argaeledd y gwestai yn llenwi yn sydyn.

Cofiwch grybwyll Triathlon Eirias wrth i chi archebu eich llety.

Ble i Aros

Visit Conwy

Air BnB

Campsites

Ceisiwch archebu eich llety mor fuan â phosib. Mae'n debyg iawn bydd argaeledd y gwestai yn llenwi yn sydyn.

Cofiwch grybwyll Triathlon Eirias wrth i chi archebu eich llety.

Event Partners