Routes
Route Description
Gan ddechrau o dan fwa'r Llinell Gorffen, byddwch yn rhedeg i fyny'r ffordd 'toll' am ychydig cyn troi i ffwrdd am lwybrau hardd Coedwig Niwbwrch. Byddwch yn cyrraedd y trac tywodlyd ac yn mentro ar hyd y traeth gyda golygfeydd allan i Benrhyn Llyn cyn troi yn ôl am yr ardal pontio ac allan ar y beic.
Peidiwch â chredu'r sibrydion bod yr Ynys hon yn wastad! Mae yna ddigon o ddringfeydd a disgyniadau ar y llwybr beic i'ch cadw ar flaenau eich traed. Gan adael yr ardal pontio yng nghanol Coedwig Niwbwrch byddwch yn dringo i fyny i bentref Niwbwrch ac yn troi i'r dde. Gan fynd ar hyd troadau ysgubol a mannau syth a chyflym, byddwch yna yn mynd i'r chwith tuag at Langaffo lle mae'r ffyrdd yn culhau ac yn haeddu rhywfaint o barch. Gan lifo i lawr trwy'r corstiroedd tuag at Falltraeth byddwch wedyn yn troi i'r chwith eto yn ôl ar hyd y briffordd i gyfeiriad Niwbwrch. Byddwch yn beicio yn nol trwy Malltraeth am Niwbwrch, ac yn disgyn nol trwy’r goedwig unwaith eto, yn barod i wisgo eich esgidiau rhedeg.
Mae'r rhediad yn digwydd ar lwybrau garw Coedwig Niwbwrch. Mae rhedeg trwy'r coed ac i lawr ar hyd y twyni tywod yn fendigedig ac yn wyllt, gyda golygfeydd anhygoel o’r môr ac Eryri yn y pellter. Mae'r 1.5km olaf bron yn gyfan gwbl ar dywod, yn sicr daw mwy o foddhad i'r cyflawniad wedi hyn!
Prisio
Pris Lansio - Unigolyn
Diwedd: 13/10/2024
- £64.99
Pris Safonol - Unigolyn
Diwedd: 07/09/2025
- £69.99
Pris Haen 3 - Unigolyn
Diwedd: 18/09/2025
- £78.99
Gwybodaeth Pwysig
Isafswm Oed
Cofrestru
Amser Cychwyn
Pontio
Amseroedd Torri i Ffwrdd
Gwobrau
We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.
Event Partners Triathlon Superfeet Llanc y Tywod 2025
Amdan
Digwyddiadau Cyfrifol
Gweithio efo cymunedau lleol
Find out more about Gweithio efo cymunedau lleolGofalu am ein hamgylchedd
Find out more about Gofalu am ein hamgylcheddArferion Cynaliadwy
Find out more about Arferion Cynaliadwy