Triathlon | Duathlon | Superfeet Llanc y Tywod 2025
Superfeet Llanc y Tywod 2025 Legend
Ein Triathlons Legend yw ein rasys mwyaf eithaf. Gall y pellter yma cael ei gyfeirio neu adnabod fel '70.3', Pellter Canolig neu 'Hanner Ironman', ond mae ein cyfres Legend yn cynnig llawer mwy na milltiroedd. Mae'r rasys yn arddangos rhai o diroedd mwyaf heriol a harddaf Gymru.
Triathlon Llanc y Tywod yw'r digyddiad olaf o'r Pencampwriaeth Antur. Mwynhewch y ras fel un neu fel rhan o'r triawd a cyflawni'r Pencampwriaeth Antur.
Routes
Route Description
Drwy ddechrau ar y traeth a cymal nofio yn y môr, mae rhengu ar draeth gogoneddus Niwbwrch yn deimlad bythgofiadwy. Mae'r nofio yn lwybr allan ac yn ôl syml, ond y cefnfor fydd yn penderfynu eich ffawd; byddwch chi'n sefyll yn erbyn dyfroedd tawel neu donnau mwy garw...does dim dweud!
Peidiwch â chredu'r sibrydion bod yr Ynys hon yn wastad! Mae yna ddigon o ddringfeydd a disgyniadau ar y llwybr beic hwn i'ch cadw ar flaenau eich traed. Gan ddechrau o'r cyfnod pontio yng nghanol Coedwig Niwbwrch, dringwch i fyny i bentref Niwbwrch a chymryd y dde. Gan fynd ar hyd troadau ysgubol a mannau syth cyflym, byddwch yn troi i’r chwith cyn y pentref adnabyddus Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch. Yna byddwch yn mynd ymlaen tuag at Porthaethwy, gan cymryd cipolwg o'r bont grog eiconig cyn mynd ar hyd ffordd gul yr arfordir i Fiwmares. Ym Miwmares, trowch i'r chwith a theithio i fyny Allt Goch; y Red Hill, dringfa greulon o serth cyn disgyn i lawr i Pentraeth. Yma, mae'r ffyrdd yn culhau, ac yn haeddu rhywfaint o barch. Ewch trwy nifer o bentrefi gan gynnwys Brynteg, Rhosmeirch a Trefor gan barhau ymlaen tuag at dref glan môr Aberffraw gyda golygfeydd godidog o'r arfordir. Gan reidio trwy Falltraeth ac ymlaen tuag at Niwbwrch, byddwch yn disgyn nol trwy’r goedwig unwaith eto, yn barod i wisgo eich esgidiau rhedeg.
Mae Triathletwyr y Legend yn cwblhau 2 lap o'r llwybr rhedeg safonol. Gyda Choedwig Niwbwrch unwaith yn cynnal Pencampwriaethau Rhedeg Mynydd y Gymanwlad a Ultra Pellter, mae'n saff i ddweud bod y llwybrau ar yr adran hon o'r radd orau. Mae rhedeg trwy'r coed ac i lawr ar hyd y twyni tywod yn fendigedig ac yn wyllt, gyda golygfeydd anhygoel o’r môr ac Eryri yn y pellter. Nid ydym yn ei gwneud hi'n hawdd chwaith, mae'r 1.5km olaf bron yn gyfan gwbl ar dywod, yn sicr daw mwy o foddhad i'r cyflawniad wedi hyn!
Prisio
Pris Lansio - Unigolyn
Diwedd: 13/10/2024
- £199.99
- Instalment Plan Available until 1/7/2025
Pris Safonol - Unigolyn
Diwedd: 24/08/2025
- £224.99
- Instalment Plan Available until 1/7/2025
Pris Haen 3 - Unigolyn
Diwedd: 11/09/2025
- £249.99
Gwybodaeth Pwysig
Isafswm Oed
Cofrestru
Amseroedd Cychwyn
Pontio
Amseroedd Torri i Ffwrdd
Gwobrau
We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.
Event Partners Triathlon Superfeet Llanc y Tywod 2025
Amdan
Digwyddiadau Cyfrifol
Gweithio efo cymunedau lleol
Find out more about Gweithio efo cymunedau lleolGofalu am ein hamgylchedd
Find out more about Gofalu am ein hamgylcheddArferion Cynaliadwy
Find out more about Arferion Cynaliadwy