RHAN O BENCAMPWRIAETH CENEDLAETHOL CYMREIG PELLTER SAFONOL
Triathlon | Duathlon | Llandudno 2025
Llandudno 2025 Safonol
Llandudno yw un o drefi ger y môr mwyaf nodweddiadol Cymru, ac fel ei bier traddodiadol, mae'r triathlon yma llawn hwyl gyda chymal beic heriol fyny'r Gogarth â disgyniad sydyn, a rhediad gwastad a sydyn i ddilyn. Mae'r triathlon hwn yn ffefryn cadarn gydag ymwelwyr Llandudno felly byddwch yn barod i glywed llawer o glychau, anogaeth ac eich enw yn cael ei galw ar bob troad!
Mae Triathlon Safonol Llandudno yn rhan o Bencampwriaeth Cenedlaethol Triathlon Cymru, felly peidiwch a methu allan ar y cyfle i frwydro am anrhydeddau cenedlaethol ar y promenâd! Nid oes angen cyn-gofrestru eich bwriad i gystadlu am wobr Pencampwriaeth Cenedlaethol. Oll sydd rhaid gwneud yw sicrhau eich lle yn y digwyddiad a bod yn aelod gyda Triathlon Cymru.
Routes
Nofio Môr - 1500m
Beic - 34.75km
Rhedeg - 9.4km
Route Description
O'r llinell gychwyn yn agos at y pier Fictoraidd eiconig, bydd eich nofio yn mynd allan i Fôr Iwerddon ar adeg gynhesaf y flwyddyn. Yn nôl ar dir sych, bydd y cymal beic yn mynd â chi ar hyd Marine Drive; ffordd arfordirol hardd o amgylch y Gogarth, sydd ar gau i gerbydau ar gyfer y digwyddiad. Bydd rhaid cwblhau 4 lap o'r llwybr yma cyn symud ymlaen i'r rhediad. Mae'r llwybr rhedeg yn dilyn lan y traeth, gan fynd â chi i lawr y promenâd cyn troi rownd wrth yr Orsaf Bad-Achub. Byddwch yn cwblhau 3 lap o'r rhediad cyn gwneud eich ffordd lawr y llinell derfyn lle bydd croeso cynnes gan wledd o gefnogwyr a thîm Camu i'r Copa!
Prisio
Pris Lansio
Diwedd: 03/11/2024
- £95.99
Pris Safonol
Diwedd: 21/09/2025
- £105.99
Pris Haen 3
Diwedd: 02/10/2025
- £115.99
Pris Safonol - Tîm
Diwedd: 21/09/2025
- £130.99
Gwybodaeth Pwysig
Isafswm Oed
Cofrestru
Amseroedd Cychwyn Tonnau
Pontio
Amseroedd Torri i Ffwrdd
Gwobrau
Event Information
Other Events
We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.
Event Partners Triathlon Llandudno 2025
Amdan
Digwyddiadau Cyfrifol
Gweithio efo cymunedau lleol
Find out more about Gweithio efo cymunedau lleolGofalu am ein hamgylchedd
Find out more about Gofalu am ein hamgylcheddArferion Cynaliadwy
Find out more about Arferion Cynaliadwy