Rasio Gwych mewn Lleoliad Anhygoel!

Events / Triathlon / Aquabike
Triathlon Y Bala 2025
Yn cefnogi Tom Harrison House
Rydym yn edrych ymlaen i ddychwelyd i Bala yn 2025, gyda ddau pellter Triathlon a dychweliad poblogaidd yr Aquabike!
Mae triathlon anyghoel Y Bala yn ôl, ac yn dechrau wrth nofio yn Llyn Tegid efo Aran Fawddwy yn edrych drosto. Ar ol nofio, mae'n amser neidio ar y beics i'r cwrs sydd wedi'w cau i gerbydau. Wedyn, daw'r cymal rhedeg ble fydd cystadleuwyr yn rhedeg ar hyd y cwrs wrth ochr llyn Tegid cyn troi nol tuag at y linell derfyn.
Mae gan y digwyddiad hwn awyrgylch gwych i wylwyr a cystadleuwyr, a cewch brofiad anorchfygol. Os ydych yn feteran yn y byd triathlon neu yn mentro am y tro cyntaf, mae Bala yn ddigwyddiad anyhogel i gael yn y calendr!
Eleni, mae Triathlon y Bala yn cefnogi Tom Harrison House. Mae Tom Harrison House yn ganolfan sydd yn cefnogi feterans, milwyr ac aelodau o'r gwasanaethau brys ar draws y DU yn eu siwrnai i adferiad o gaethiwed. Mae'r cynllun hefyd yn cynnig cefnogaeth i aeoldau o'r teulu. Mae'r tîm arbenigol yn y ganolfan yn cael eu cefnogi gan gwirfoddolwyr brwdfrydig, gyda phob un wedi cwblhau'r cynllun yn bersonol. Drwy gefnogi iechyd corfforol ac meddyliol, mae ymarfer corfforol yn chwarae rhan hanfodol mewn adferiad, ac mae cymryd rhan yn y triathlon wedi rhoi amcan pwysig i lawer o breswylwyr - edrychwch allan am y cystadleuwyr mewn glas!
Os hoffwch chi godi arian a chefnogi gwaith anhygoel y ganolfan hwn, ticiwch y bocs wrth archebu eich lle. Nid oes lleiafswm angen ei hel, mae pob ceiniog yn cyfri!
Os hoffwch chi geisio am lle elusennol am ddim yn y ras, cysylltwch â fundraise@tomharrisonhouse.org.uk
Dewis Eich Pellter
Y Bala 2025
Sbrint
07 Sep 2025
Nofio Llyn: 750m
Beic: TBC
Rhedeg: 5km

Y Bala 2025
Safonol
07 Sep 2025
Nofio Llyn: 1500m
Beic: TBC
Rhedeg: 10km

Y Bala 2025
Aquabike
07 Sep 2025
Nofio Llyn: 1500m
Beic: TBC
What's Included

Pentref Digwyddiad Bywiog
Cerddoriaeth, sylwebaeth, siopa a bwyd gydag awyrgylch hwyliog a chefnogol

Hwyl I gyd o'r deulu
Gorffeniadau teuluol a digon i'w wneud a'i weld

Cymorth ar y Cwrs
Marsialiaid gwych, arwyddion a cherbydau cludo

Cofrodd Gorffen Unigryw
Wedi'i ddylunio'n hyfryd i adlewyrchu lleoliadau ein digwyddiadau a hanes lleol.

Lleoliad Syfrdanol
Llynoedd a mynyddoedd hyfryd o gwmpas ardal y Bala

Amseru Proffesiynol
System amseru 'chip'
Event Information

Triathlon Y Bala 2025
Cwestiynau Cyffredin (FAQs)

Triathlon Y Bala 2025
Teithio & Llety

Triathlon Y Bala 2025
Gwybodaeth i Bobl Lleol

Triathlon Y Bala 2025
Gwirfoddoli

Triathlon Y Bala 2025
Galeri

Triathlon Y Bala 2025
Adroddiadau Rasio
Other Events
We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.
Event Partners
Amdan
Digwyddiadau Cyfrifol
Gweithio efo cymunedau lleol
Find out more about Gweithio efo cymunedau lleolGofalu am ein hamgylchedd
Find out more about Gofalu am ein hamgylcheddArferion Cynaliadwy
Find out more about Arferion Cynaliadwy