Ras dygnwch a llwybr eithaf, ond anhygoel!
Events / Rhedeg Llwybr
Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
Yr Wyddfa yw'r mynydd uchaf yn Eryri, yng Nghymru ac yn Lloegr gyda'r copa yn cyrraedd 1,085 m (3,560 troedfedd).
Gan ddechrau a gorffen wrth droed y mynydd eiconig hwn, cewch eich herio naill ai fel unigolyn, neu fel rhan o dîm i esgyn a disgyn yr Wyddfa gymaint o weithiau â phosibl mewn 24 awr.
I redwyr unigol, mae hon yn her dygnwch eithafol sydd yn gofyn am nerth corfforol a meddyliol. Y record bresennol yw 8 lap - fedrwch chi ei guro? Mae'r ras hon yn rhan o fynegai UTMB, ac yn gyfle i unigolion paratoi a chymhwyso i ras UTMB Mont Blanc. Mae'r cyflawniadau unigol o 50k, 100k a 100 Milltir yn rhan o her UTMB.
Mae hefyd modd cwblhau Yr Wyddfa 24 fel pâr neu dîm (hyd at 5). Byddwch yn rhedeg ar ffurf ras gyfnewid hefo un chip amseru, felly dim ond un aelod o’r tîm fydd yn cael rhedeg ar y tro. Mae hon yn ffordd wych ac unigryw i bobl ddod at ei gilydd fel ffrindiau, teulu neu gyd-weithwyr i gyd-weithio tuag at nod am 24-awr. Mi fydd y nod yn hollol bersonol i chi, boed hynny yn nifer o esgyniadau a disgyniadau, profi eich dygnwch neu i godi arian i elusen - mae pob aelod o'r tîm yn allweddol.
Cefnogi Ymchwil Canser Cymru
Ymchwil Canser Cymru yw partneriaid elusennol swyddogol Yr Wyddfa 24. Mae'r elusen yn ymroi i ariannu ymchwil canser yng Nghymru. Os hoffwch chi godi arian ar gyfer yr elusen, plîs ticiwch y bocs wrth archebu eich lle yn y ras. Nid oes lleiafswm o arian angen ei gasglu, mae pob ceiniog yn cyfri. Bydd unrhyw un sydd yn casglu mwy na £50 yn derbyn Crys-T am ddim gan yr elusen.
Os hoffwch chi geisio am le elusennol am ddim yn y ras (lleiafswm nawdd o £500), plîs cysylltwch ag Ymchwil Canser Cymru: contact-us@cancerresearchwales.org.uk
Mae hefyd croeso cynnes i redwyr sydd yn cefnogi elusennau eraill.
Gwybodaeth Ras a Llwybr
Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
Unigol
12 Jul - 13 Jul 2025
Rhedeg: Mor bell a gallwch chi!
Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
Timau
12 Jul - 13 Jul 2025
Rhedeg: Mor bell a gallwch chi!
What's Included
Pentref Digwyddiad Bywiog
Toiledau, bwyd, siopa, cerddoriaeth a sylwebaeth yn ystod oriau golau dydd.
Ardaloedd Gorffwys
Ardal seibiant distaw, caeau pabell a pharth ymlacio
Cymorth ar y Cwrs
Marsialiaid cyfeillgar, arwyddion a cherbydau cefnogaeth
Coffadwriaeth Llechan Unigryw
Wedi'i ddylunio'n hyfryd i adlewyrchu lleoliadau ein digwyddiadau a hanes lleol.
Golygfeydd Syfrdanol
Golygfeydd diguro ar draws Eryri
Amseru Proffesiynol
Amseru 'chip' electronig
Event Information
Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
Cwestiynau Cyffredin (FAQs)
Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
Teithio & Llety
Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
Gwybodaeth i Bobl Lleol
Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
Gwirfoddoli
Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
Galeri
Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
Adroddiadau Rasio
We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.
Event Partners
Amdan
Digwyddiadau Cyfrifol
Gweithio efo cymunedau lleol
Find out more about Gweithio efo cymunedau lleolGofalu am ein hamgylchedd
Find out more about Gofalu am ein hamgylcheddArferion Cynaliadwy
Find out more about Arferion Cynaliadwy