Gweithio Gyda Ni
Swydd Cynorthwyydd Digwyddiadau
Cyflog: £21,500 - £23,000 blynyddol
Lleoliad: Swyddfa Llangefni, Ynys Môn
Oriau: 37.5 awr ar gyfartaledd (yn cynnwys rhai penwythnosau)
Contract sefydlog 6 mis gyda’r bwriad o ymestyn i swydd lawn amser parhaol.
Rôl Gyffredinol
Fel Cynorthwyydd digwyddiadau byddwch yn aelod hanfodol o’r tîm, gan weithio ar draws y timau Marchnata a Rheoli Digwyddiadau i sicrhau bod popeth yn ei le i gyflawni ein nodau i wneud ein digwyddiadau y profiad gorau posibl i gyfranogwyr, cymunedau lleol a rhandeiliaid eraill.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio i gwmni digwyddiadau chwaraeon o fri ar dechrau eich gyrfa yn y diwydiant. Bydd llawer o gyfleoedd i ddysgu, ac wrth i chi symud ymlaen a chael profiad efallai y bydd gennych gyfleoedd gan gynnwys cymryd yr awenau ar gynllunio ar gyfer rhai o’n digwyddiadau, cynorthwyo gyda rheoli diwrnod y ras a chymryd rhan mewn swyddi ac ymgyrchoedd marchnata digidol.
Bydd gofyn i chi weithio yn ystod bob penwythnos digwyddiad, oni bai y cytunwyd yn flaenorol gyda’ch rheolwr llinell. Byddwch yn adrodd I'r Pennaeth Rheoli Digwyddiadau.
Y rôl benodol
- Byddwch yn gyfrifol am archebu a rheoli sefydliadau allanol sy’n cefnogi ein digwyddiadau ac yn darparu gwasanaethau ; gosod archebion, goruchwylio archebion a chael dyfynbrisiau.
- Rheoli ein ystordy a cynnal a chadw ein offer gan gynnwys ein cerbydau.
- Cynorthwyo gyda recriwtio, cefnogi, gwobrwyo a sicrhau iechyd a diogelwch gwirfoddolwyr a marsaliaid.
- Sicrhau bod gwaith papur a rhestrau eiddo yn gywir a chyfredol.
- Archebu a threfnu gwobrau, bwyd a nwyddau ar gyer ein digwyddiadau.
- Archebu a rheoli gwerthwyr a phartneriaid i fynychu ein Pentref Digwyddiadau
- Ateb galwadau ffón ac e-byst gwasanaeth cwsmer mewn modd broffesiynol a gwasanaethgar.
- Gweithredu fel aelod canolog o staff ar benwythnosau digwyddiadau gyda thasgau gan gynnwys gyrru, marcio cyrsiau, adeiladu seilwaith, pacio faniau a chydlynu staff llawrydd a
- Cynorthwy’r tîm marchnata gyda thasgau fel diweddaru’r wefan gyda chynnwys a delweddau, ysgrifennu blogiau, creu ymgyrchoedd dros e-bost a chynyrchu cynnwys cyfryngau cymdeithasol deniadol.
- Mynychu cyfarfodydd tím rheoli Digwyddiadau a Marchnata a chyfrannu’n weithredol ar gyfarfodydd a thrafodaethau i gynhyrchu syniadau a fydd yn cyfrannu at newid cadarnhaol.
Sgiliau gofynnol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Person trefnus gyda’r gallu i weithio ar sawl peth ar unwaith
- 'copywriter’ hyderus
- Sgiliau TG gwych
- Y gallu i ffynnu mewn amgylchedd
- Ffocws ardderchog a rheolaeth amser
- Profiad gyda cyfryngau cymdeithasol
- Y gallu i weithio'n hyblyg gan gynnwys oriau hir ar benwythnosau digwyddiadau
- Trwydded yrru cyfredol
Mae’r ról yma wedi ei gyllido gan Llwyddo’n Lleol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr
- O dan 35 oed
- Byw yn ardal ARFOR (Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion, Sir Gar) neu’n wreiddiol o ardal ARFOR ac yn bwriadu/eisiau symud yn ôl.
- Unigolion sydd yn gallu siarad Cymraeg neu sy’n gallu dangos ymrwymiad clir i ddysgu a defnyddio’r iaith.
Sut i Ymgeisio
Anfonwch lythyr eglurhaol a CV i claire@alwaysaimhighevents.com cyn y dyddiad cau, am hanner nos ar ddydd Sul 3ydd o Fawrth 2024.