Cymraeg

Info for Locals copy

Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.

Fel aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.

Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg.

Covid-19

Diogelwch pawb sy'n mynychu ein digwyddiadau yw ein prif flaenoriaeth, ewch i'n tudalen Covid-19 i weld y wybodaeth ddiweddaraf ar sut y byddwn yn cyflwyno digwyddiad Covid diogel yn y gymuned. Sylwch y gall yr holl amseriadau isod newid.

Amseroedd

Fel arfer, mae'r ras gyntaf yn dechrau am 09:00 gydag athletwyr yn dechrau cyrraedd y safle o 08:00. Mae disgwyl i'r ras olaf ddod i ben tua 12:30 a bydd pentref y digwyddiad yn cau am 14:00. Mae amseroedd cychwyn rasys penodol yn newidiol a bydd manylion amdanynt yn y Cyfarwyddiadau Terfynol ar y wefan, sydd ar gael 10 diwrnod cyn y ras.

Cau ffyrdd

Ni fydd unrhyw gau ar gyfer y digwyddiad hwn

Parcio

Bydd meysydd parcio Traeth CNC, Awyrenwyr a Chwningar ar agor i'r cyhoedd eu defnyddio. Bydd mynediad i faes parcio'r bobl leol yn cael ei gynnal.


Gwylio

Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau, i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.

Cymryd Rhan

Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.

Arwyddion a Sbwriel

Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.

Bydd angen i wylwyr ddefnyddio'r cyfleusterau Talu ac Arddangos priodol wrth barcio. Mae gwardeiniaid y cyngor yn debygol o roi tocyn i gerbydau sydd wedi'u parcio'n wael gan eu bod yn peri risg wirioneddol i ddiogelwch yr holl gystadleuwyr.

Y lle gorau i wylio pawb fydd o amgylch pentref y digwyddiad lle bydd y llinell gychwyn / gorffen.

Mae croeso i chi ddod i mewn i bentref y digwyddiad i fwynhau'r awyrgylch ac ymweld â'n stondinau masnach.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar wylwyr oherwydd Covid-19.