Gwybodaeth i Bobl Lleol
Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.
Fel aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.
Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg.
Amseroedd
Fel arfer, mae’n cymryd un diwrnod i baratoi pentref y digwyddiad, a fydd yn cael ei adeiladu ym maes parcio’r traeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Bydd staff yn bresenol ar y safle ddydd Sadwrn rhwng 0900 a 1900, a dydd Sul rhwng 0500 a 2000.
Ddydd Sadwrn bydd:
- Cofrestru ac Expo’r Digwyddiad
Bydd yr holl rasys yn cael eu cynnal ddydd Sul:
- Triathlon a Duathlon Sbrint
- Triathlon a Duathlon Safonol
- Triathlon Legend
Mae'r digwyddiad yn debygol o gau tua 17:00 ddydd Sadwrn a 19:00 ddydd Sul.
Bydd amseroedd penodol y digwyddiad yn cael eu nodi yn y Cyfarwyddiadau Terfynol, a fydd ar gael ar y wefan 10 diwrnod cyn y ras.
Cau Ffyrdd
Er mwyn rhoi'r profiad gorau a mwyaf diogel i athletwyr, bydd y ffordd fynediad i brif faes parcio'r traeth ar gau am y rhan fwyaf o'r dydd Sul i bawb oni bai cystadleuwyr. Byddwn yn gofyn am ganiatâd i gau ffyrdd dros dro ac i roi mesurau rheoli traffig ar waith fel y nodir isod:
- Cau’r brif ffordd fynediad i’r traeth, sy’n cael ei chyrraedd o Stryd yr Eglwys drwy Goedwig Niwbwrch. Bydd y ffordd hon ar gau am ran o ddiwrnod y ras. Bydd Stryd yr Eglwys yn parhau ar agor ar gyfer mynediad lleol.
- Cyfyngiadau parcio ar Stryd y Capel rhwng y B4421 a’r safle bws i lawr y ffordd islaw’r siop sglodion.
- Mesurau rheoli traffig ar Groesffordd Niwbwrch sy’n arwain at y traeth.
Bydd Traeth Llanddwyn yn parhau ar agor i’r cyhoedd; fodd bynnag, ni fydd mynediad i gerbydau drwy’r bwth tollau tra bydd y ffordd ar gau.
Byddwn yn dosbarthu llythyr i bob cartref yr effeithir arno cyn dyddiad y digwyddiad. Bydd copi o’r llythyr hwnnw hefyd ar gael yma.
Gwylio
Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau, i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.
Bod yn Rhan o'r Digwyddiad
Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.
Arwyddion a Sbwriel
Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.