Cymraeg

Gwybodaeth i Bobl Lleol

Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.

Fel aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.

Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg.

Amseroedd

Fel arfer, bydd hi'n cymryd deuddydd i sefydlu a gosod y digwyddiad. Disgwylir i athletwyr dechrau cyrtraedd y safle am 05:30 Dydd Sadwrn a Sul, gyda staff ar y safle oleiaf 2 awr cynt. Yn ystod oriau anghymdeithasol, caiff swn ei gadw mor isel a phosib.

Dydd Sadwrn bydd:

  • 3 pellter o nofio dwr agored

Dydd Sul bydd:

  • Triathlon & Duathlon Sbrint
  • Triathlon Safonol
  • Triathlon Legend

Cau Ffyrdd

Nid oes unrhyw ffyrdd yn cau yn ystod y digwyddiad hwn, ond cofiwch y bydd beicwyr ar y ffyrdd felly cynlluniwch amser ychwanegol ar gyfer eich taith.

Gwylio

Mae croeso mawr i wylwyr ddod lawr i'n digwyddiadau. Rydym yn ymfalchïo mewn creu awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ymhob digwyddiad, a physen ni wrth ein boddau i chi ymuno â ni i ychwanegu croeso cynnes cymunedol Gymreig.

Cymryd Rhan

Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.

Arwyddion a Sbwriel

Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.

Gellir dod o hyd i fapiau o'r llwybrau athletwyr trwy glicio ar bellteroedd y ras ar brif dudalen y digwyddiad. Rydym yn argymell y mannau hyn ar gyfer gwylio.

  • Bydd yr ardal laswellt o dan y llinell derfyn yn caniatáu ichi weld y nofwyr ar y ffordd i bontio ac yna'r darn rhedeg cyn iddynt fynd ar y mynydd.
  • Mae yna nifer o gilfachau ar y llwybrau beicio, fodd bynnag, byddem yn gofyn, os dewiswch wylio ar y llwybr beicio, gyrru'n ofalus a bod yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y ffordd gan gynnwys y triathletwyr, a pharcio'n ddiogel oddi ar y ffordd.

Mae croeso i chi ddod i mewn i'r Pentref Digwyddiad i fwynhau'r awyrgylch ac ymweld â'n stondinau masnach. Nid oes unrhyw dâl i fynd i mewn.

Event Partners