Gwybodaeth i Bobl Lleol
Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.
Fel
aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol
yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy
roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein
diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael
yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.
Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y
digwyddiad hwn yn rhedeg.
Amseroedd
Fel arfer mae'n cymryd dau ddiwrnod i sefydlu'r digwyddiad. Bydd athletwyr yn dechrau cyrraedd tua 07:00 ddydd Sadwrn a 05:00 ddydd Sul, ac mae staff yn cyrraedd y safle tuag awr o'u blaenau. Yn ystod oriau anghymdeithasol bydd yr holl sŵn yn cael ei gadw mor isel â phosibl.
Ddydd Sadwrn bydd:
4 pellter o nofio dŵr agored
Dydd Sul bydd:
Triathlon Sbrint-Byr
Triathlon a Duathlon Sbrint
Pellter Safonol - Pencampwriaeth Byd Grŵp Oedran Prydain, Pencampwriaeth Super Series Triathlon Cymru.
Triathlon Safonol
Triathlon Legend
Mae'r pentref digwyddiad yn debygol o gau am tua 18:00 ar y ddau ddiwrnod.
Manylir ar amseriadau digwyddiad penodol yn y Cyfarwyddiadau Terfynol sydd ar gael ar y wefan 10 diwrnod cyn y ras.
Rheoli Traffig a Chau ffyrdd
Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ac i sicrhau bod cystadleuwyr a gwylwyr yn cael y profiad gorau a mwyaf diogel, byddwn yn gofyn am ganiatâd i gau ffyrdd dros dro a rhoi dargyfeiriadau eraill yn eu lle fel y nodir isod:
Dydd Sadwrn
Dim cau ffyrdd
Dydd Sul
Er mwyn rhoi’r profiad gorau a mwyaf diogel i’r cystadleuwyr a’r gwylwyr, rydym wedi cael caniatâd i gau’r ffyrdd canlynol a rhoi dargyfeiriadau amgen ar waith:
Rhwng 05:15 a 10:30:
- International Drive i'w gyffordd efo Olympian Drive
- Olympian Way, Watkiss Way ac i'r chwith ar Dunleavy Drive o'i gyffordd efo Watkiss Way i'w gyffordd efo Dunleavy Drive Retail Park
Rhwng 05:15 a 13:30
- East Tyndall Street o'i gyffordd efo Schooner Way i'w gyffordd efo Herbert Street a Lloyd George Avenue
- Lloyd George Avenue o'i gyffordd efo Herbert Street i'w gyffordd efo Bute Place - Bydd mynediad allan o eiddo Lloyd George Avenue yn cael ei gynnal gan Stiwardiaid Cau Ffordd ar ddiwrnod y digwyddiad.
- Bute Place o'i gyffordd efo Lloyd George Avenue i'w gyffordd efo Pierhead Street.
- James Street, Clarence Road, Avondale Road a Ferry Road i'w gyffordd efo Clive Street.
Byddwn yn danfon llythyr i holl preswylwyr sydd yn cael eu heffeithio gan y trefniadau uchod chwe wythnos cyn y digwyddiad. Bydd copi o'r llythyr hwnnw ar gael yma.
Mae preswylwyr Channel View ac ardal Clive Street sydd angen cael eu ceir allan cyn i'r ffordd ailagor yn cael eu hannog i barcio ym maes parcio'r IKEA dros nos ddydd Sadwrn. Rydym yn ddiolchgar iawn i IKEA am roi'r cyfle hwn i ni, ond nodwch fod ceir yn cael eu gadael mewn perygl perchnogion.
Bydd darpariaethau i drigolion Clawdd Clarence, Pomeroy Street, Hamadryad Road, Clarence Place, Hunter Street, Burt Street, Burt Place, Harrowby Place, Harrowby Lane, Harrowby Street i fynd i mewn ac allan o'r ardal gaeedig trwy gydol y dydd. Rhaid i chi ddilyn cyfarwyddiadau’r stiwardiaid yn llym.
Disgwyliwch oedi os ydych chi'n teithio yn yr ardal. Bydd stiwardiaid wrth law i arwain a chynorthwyo ac, os bydd argyfwng, byddant yn gallu hebrwng cerbydau i mewn ac allan fel a phan fo hynny'n briodol.
Fel cwmni o Gymru rydym yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch ac anghyfleustra â phosib, a diolchwn ichi ymlaen llaw am eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth helpu i ddod â Thriathlon Prifddinas i Gymru. Dewch allan i gefnogi'r beicwyr a'r rhedwyr wrth iddynt basio a rhoi croeso Cymreig enfawr iddynt. Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â'r ras, cysylltwch â ni.
Parcio
Rydym yn cyfeirio ein hathletwyr at y meysydd parcio talu ac arddangos sydd wedi'u lleoli o amgylch Caerdydd.
Gwylio
Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau, i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.
Y lle gorau i wylio’r holl gyffro fydd ym Mae Caerdydd, byddwch yn gallu gweld y nofio, ardal Pontio, llwybr beicio yn ogystal â’r ardal rhedeg a gorffen.
Mae croeso i chi ddod i mewn i'r pentref digwyddiadau, mwynhau'r awyrgylch ac ymweld â'n stondinau masnach.
Bod yn Rhan o'r Digwyddiad
Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.
Arwyddion a Sbwriel
Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.