Cymraeg

Triathlon  | Duathlon  | Caerdydd 2025

Caerdydd 2025 Legend

Ein Triathlons Legend yw ein rasys mwyaf eithaf. Gall y pellter yma cael ei gyfeirio neu adnabod fel '70.3', Pellter Canolig neu 'Hanner Ironman', ond mae ein cyfres Legend yn cynnig llawer mwy na milltiroedd. Mae'r rasys yn arddangos rhai o diroedd mwyaf heriol a harddaf Gymru.

Dewch i brofi eich dygnwch a gwnewch eich hun yn Legend o Triathlon Gaerdydd. Mae'r ardal syfrdanol yma yn benthyg ei hun yn berffaith ar gyfer profiad triathlon anhygoel, i gyfranogwyr a gwylwyr.

Hefyd, mi fydd Legend Gaerdydd yn cynnal Pencampwriaethau Cenedlaethol Triathlon Cymru, felly peidiwch â methu allan ar y cyfle i frwydro am anrhydeddau cenedlaethol yn y brif ddinas. Nid oes angen rhag-gofrestru eich bwriad i gystadlu am wobr Pencampwriaeth Genedlaethol. Oll sydd angen i chi wneud ydy bwcio eich digwyddiad ffafredig a sicrhau eich bod yn aelod o Triathlon Cymru.


Dates

22 Jun 2025

Location

Caerdydd

Distances

Route Description

Dechreuwch eich ras efo'r cyfle unigryw i nofio ym Mae Caerdydd. Mae Bae Caerdydd yn cael ei gyflenwi gan ddwy afon i ffurfio llyn dŵr croyw 500 erw (2.0 km2) o amgylch hen ardal y dociau i'r dde o Ganol y Ddinas.

Mae cystadleuwyr Olympaidd yn cwblhau tri lap 13k o gwrs gwastad a chyflym ar FFYRDD CWBL GAEEDIG. Gan fynd allan o'r ardal pontio o dan gysgod Canolfan Mileniwm Cymru byddwch yn mynd ar hyd Ffordd James ac i lawr Ferry Road. Gan edmygu safleoedd Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd ac ar hyd ochr Trelái byddwch yn cyrraedd y pwynt troi cyntaf. Llifwch yn ôl i'r cyfeiriad rydych chi wedi dod, gyda golygfeydd o'r Ganolfan Mileniwm, y Senedd ac wrth gwrs Bae eiconig Caerdydd. Yna byddwch yn mynd ar hyd Rhodfa Lloyd George ac yn gwefreiddio ar gyflymder y rhan hon, cyn cyrraedd man troi arall i hedfan i lawr y rhodfa unwaith eto. Mae'r lap yn gorffen wrth fynedfa'r 'Oval Basin' o dan Ganolfan Mileniwm Cymru.

Mae'r rhediad yn llwybr allan ac yn ôl mae'n rhaid i chi gwblhau dwywaith, sy'n dangos golygfeydd Bae Caerdydd ar hyd y ffordd. Byddech gyntaf yn mynd allan o'r ardal pontio tuag at yr Eglwys Norwegian ag ar hyd y llwybr beicio, gan edmygu'r safleoedd treftadaeth ddiwydiannol y mae Caerdydd mor enwog amdanynt. Mae'r llwybr yn wastad ac yn gyflym yn enwedig ar hyd y morglawdd. Mae'r ffordd yn ôl yn rhoi golygfeydd i chi o'r Adeilad Pierhead, Canolfan Mileniwm Cymru, y Senedd a chymaint mwy fel y bydd gennych ddigon i'ch cadw llawn cymhelliant wrth i chi fynd am eich PB! Mae'r man troi i'r lap reit wrth ymyl yr Adeilad Pierhead, lle byddech yn gwneud dwbl yn ôl i'r morglawdd. Unwaith rydych yn cyrraedd yma unwaith eto, mae'n bryd gorffen eich sbrint; ar hyd Bute Place, rownd y gornel ac i mewn i'r llinell derfyn o flaen Canolfan Mileniwm Cymru gyda chroeso enwog Camu i'r Copa.

Prisio

Pris Lansio

Diwedd: 28/07/2024

  • £199.99
  • Instalment Plan Available until 1/4/25

Pris Safonol

Diwedd: 01/06/2025

  • £229.99
  • Instalment Plan Available until 1/4/25

Pris Haen 3

Diwedd: 20/06/2025

  • £249.99

Gwybodaeth Pwysig

Isafswm Oed

Cofrestru

Amseroedd Cychwyn

Trosglwyddo

Amseroedd Torri i Ffwrdd

Seremoni Wobrwyo

Are you in?

See Start List

Final Instructions

Will be sent out and available to download 1 week before the event.

We are proud that all our events are bilingual. Signs, registration and commentary are available in English and Welsh.

Event Partners Triathlon Caerdydd 2025

Amdan

Digwyddiadau Cyfrifol