Gwybodaeth i Bobl Lleol
Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.
Fel aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.
Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg.
Amseroedd
Mae Triathlon Llandudno yn cael ei effeithio gan y llanw, felly mae'r amseroedd cychwyn yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Bydd y rasys pob tro yn dechrau yn y bore.
Fel arfer, mae'n cymryd un diwrnod i osod a sefydlu'r digwyddiad sydd yn cael ei rannu rhwng Venue Cymru ac ochr y pier o'r promenâd. Bydd athletwyr a staff yn cyrraedd yn fuan bore Sul. Yn ystod oriau anghymdeithasol, bydd swn yn cael ei gadw mor isel a phosib.
Ar diwrnod y ras, bydd yna:
- Triathlon Sbrint
- Triathlon Safonol
- Duathlon Safonol
Mi fydd amseroedd penodol y digwyddiad wedi'w manylu yn y ddogfen Cyfarwyddiadau Terfynol sydd ar gael ar ein gwefan 10 diwrnod cyn y ras.
Cau Ffyrdd & Rheoli Traffig
Er mwyn lleihau tarfu gymaint a phosib ac sicrhau y profiad gorau a mwyaf diogel i'n cyfranogwyr a gwylwyr, byddwn yn ceisio caniatad i gau lonydd dros-dro a gweithredu system rheoli traffig. Gweler y manylion isod:
- Cau ffordd North Parade
- Cau ffordd Happy Valley
- Cau ffordd Marine Drive
- Cau ffordd Church Walks
Byddwn yn danfon llythyr i phob preswylwyr gall cael ei heffeithio gan y trenfiadau uchod cyn dyddiad y digwyddiad. Bydd copi o'r llythyr hwnnw hefyd ar gael ar ein gwefan.
Parcio
Rydym yn deall gall trefniadau parcio i'n athletwyr rhoi pwysau ar y cynifer o feysydd parcio sydd ar gael yn y dref i tai a busnesau lleol, a rydym yn gwneud hyn yn glir i'n athletwyr. Rydym yn arwyddo'n fanwl o amgylch y digwyddiad, ac yn cyfathrebu'r pwysigrwydd o barcio yn ystyriol yn ein Cyfarwyddiadau Terfynol. Mae hyn yn cynnwys:
- hyrwyddo i athletwyr rannu ceir wrth drafeilio i'r digwyddiad
- manylion ar sut i drafeilio i Llandudno drwy ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus
- arwyddion i meysydd parcio talu ac arddangos
- gwyboaeth manwl am unryw feysydd parcio sydd wedi'w chytuno o flaen llaw fel mannau parcio penodol i'r digwyddiad
Gwylio
Mae holl llwybrau'r digwyddiad hwn ar gael ar ein gwefan. Mae groeso cynnes i holl wylwyr ymuno â ni ar hyd y ffyrdd neu yn y pentref digwyddiad i annog ein beicwyr ymlaen. Rydym yn ymfalchio yn ein awyrgylch braf a ysbrydoliedig, felly dewch yn llu!
Arwyddion a Sbwriel
Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.