Cymraeg

Postponement of the Harlech Triathlon and The Worlds Steepest Street Race

Published: 15.02.2021

Yng ngoleuni'r sefyllfa barhaus o covid-19, nid oes gennym ddewis ond gohirio Triathlon a Duathlon Harlech 2021 & Ras Mwyaf Serth y Byd. Yn anffodus, mae hyn yn anochel oherwydd y sefyllfa barhaus yng Nghymru, rydym yn dilyn cyfyngiadau llywodraeth Cymru yn ogystal â dymuniadau'r gymuned leol yn Harlech. Rydym yn deall y bydd hyn yn siomedig i'r rhai sydd wedi bod yn edrych ymlaen gymaint, mae eich siom yn cael ei rhannu gan bob un ohonom yn Camu i'r Copa. Wedi dweud hynny, iechyd, diogelwch a lles pawb yn ein digwyddiadau; athletwyr, cefnogwyr a chymunedau, sydd wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydyn ni'n rhagweld y bydd ras 2022 yn cael ei chynnal ddiwedd mis Mawrth / dechrau mis Ebrill. Bydd ymgeiswyr yn cael eu trosglwyddo'n awtomatig i ddigwyddiad y flwyddyn nesaf.

Ni allwn ddiolch digon i chi i gyd am y gefnogaeth a gawsom dros y 12 mis diwethaf, heb garedigrwydd parhaus ein cwsmeriaid ni allem fysem yn gallu parhau. Mae hwn yn gyfnod anodd i'r gymuned chwaraeon cyfan ac mae eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn golygu llawer iawn. Rydym yn obeithiol ac yn optimistaidd, gyda'r brechlyn nawr yn gyrru cyfraddau'r haint i lawr, y byddwn yn gallu dychwelyd i fusnes yn hollol ddiogel cyn bo hir.