Cymraeg

Run 4 Wales yn caffael Always Aim High Events

Published: 17.04.2025

Mae Run 4 Wales (R4W) yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi caffael Always Aim High Events Ltd, symudiad sydd yn gweld cynllunwyr digwyddiadau cyfranogiad torfol yn cyfuno ar draws Cymru.

Mae’r bartneriaeth yn cydlynu dau arweinydd yn niwydiant chwaraeon Cymru sydd yn rhannu’r ymrwymiad o ddarparu digwyddiadau arobryn sydd yn rhoi nôl i’w chymunedau ac yn ysbrydoli mwy o bobl i fod yn actif.

Mae R4W yn fenter gymdeithasol nid-er-elw ac yn sefydliad elusennol sydd wedi’i chreu i hyrwyddo, rheoli a darparu digwyddiadau chwaraeon. Ers ei sefydliad yn 2012, mae’r cwmni wedi tyfu i fod yn un o’r trefnwyr digwyddiadau cyfranogiad torfol mwyaf adnabyddus, sydd yn cael ei harwain gan ei angerdd i ddarparu digwyddiadau o’r safon uchaf gydag agenda cymdeithasol cadarnhaol.

Mae ei phortffolio o ddigwyddiadau yn cynnwys Hanner Marathon Gaerdydd a Gŵyl Marathon Casnewydd, gyda gwargedion yn cael eu buddsoddi mewn i chwaraeon lawr gwlad a phrosiectau cymunedol a rhedwyd gan Sefydliad Elusennol Run 4 Wales. Erbyn hyn, mae £1 miliwn wedi cael ei dyrannu i fentrau a chynlluniau sydd yn ceisio gwella iechyd a lles preswylwyr Cymru.

Gyda’r ychwanegiad o Always Aim High Events, bydd R4W yn gallu trosol ei phortffolio eang i gynyddu ei heffaith cymdeithasol ar draws y wlad.

Rydyn ni mor falch o groeso Always Aim High Events i deulu Run 4 Wales, ble ddaw cyfle i ni ymestyn ein cyrhaeddiad ar draws y wlad gan ddarparu rhai o ddigwyddiadau cyfranogiad torfol mwyaf eiconig Cymru o ein cartref yng Nghaerdydd a nawr o swyddfa newydd Always Aim High Events yn Llanberis.

Mae Always Aim High Events wedi adeiladu enw gwych am ddarparu digwyddiadau o’r safon uchaf ac mae’r tîm wedi gweithio’n galed i sicrhau bod eu cystadleuwyr wrth wraidd pob digwyddiad, yn ogystal â sicrhau bod busnesau a chymunedau lleol yn cael eu cefnogi. Mae hon yn gyfle gwych i ni gyfuno, rhannu gwybodaeth ar draws y sector a chreu effaith parhaol ledled Cymru.
Matt Newman, Prif Weithredwr Run 4 Wales

Sefydlwyd Always Aim High Events yn 2011, ac mae ganddynt bortffolio eang o ddigwyddiadau adnabyddus gan gynnwys y triawd o driathlons; Llanc y Llechi, Llanc yr Eira a Llanc y Tywod, yn ogystal â Marathon Llwybr Eryri, gyda phob un yn arddangos y gorau o amgylchedd naturiol Cymru. Mae’r cwmni hefyd yn angerddol am roi nôl ac wedi rhoddi dros £250,000 i elusennau a grwpiau lleol o ganlyniad i’r digwyddiadau yn eu hardaloedd lleol.

Mae partneriaeth newydd, sydd wedi ei hadeiladu ar sylfaen o gywerthoedd yn disgwyl gweld effaith ledled Cymru, nid yn unig thrwy ddigwyddiadau o’r safon uchaf, ond hefyd thrwy helpu i dorri lawr rhwystrau er mwyn annog cyfranogiad mewn gweithgaredd corfforol.

Dywedodd Nigel Kendrick, cyd-sefydlydd Always Aim High Events:Mae hon yn gyfle cyffrous i Always Aim High Events a'r tîm yma yn Llanberis. Mae hi’n garreg filltir fawr i’r busnes, sydd yn rhoi llwyfan i dyfiant a ffyniant hirdymor. Bydd y bennod nesaf yma hefyd yn rhoi hwb arwyddocaol economaidd i’r sector digwyddiadau yma yng Ngogledd Cymru.

Rwy’n hynod o falch o bopeth mae Always Aim High Events wedi’i gyflawni dros y 15 mlynedd diwethaf – o yrru buddion economaidd allweddol i Gymru trwy’r digwyddiadau, i osod safonau ar gyfer rheolaeth digwyddiadau cynaliadwy a chyfrifol, a hoffwn ymestyn diolch o’r galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’n taith. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cwmni yn parhau i flodeuo gyda'i fuddsoddwyr Newydd, Run 4 Wales.”

Ychwanegodd Tim Lloyd, cyd-sefydlydd Always Aim High Events: “Mae Always Aim High Events wedi bod yn angerdd gen i ers dros 15 mlynedd – prosiect angerddol a dyfodd i fod yn fusnes llewyrchus, ac rwyf wedi mwynhau bob eiliad o’r daith. O’r cychwyn cyntaf, y brif flaenoriaeth yw’r gymuned, wrth weithio law yn llaw gydag unigolion anhygoel i ddarparu digwyddiadau arobryn yn nhirweddau syfrdanol Gogledd Cymru. Rwy’n wirioneddol yn edrych ymlaen at weld Always Aim High Events yn blodeuo yn nwylo Run 4 Wales – mae hi’n gyfle anhygoel i’r tîm, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y criw yn mynd o nerth i nerth.”

Mae’r sefydliadau wedi cyd-weithio am nifer o flynyddoedd fel rhan o MSO Cymru (Mass Sporting Organisations), grŵp o sefydliadau digwyddiadau cyfranogiad torfol sydd yn cydweithio ar arferion gorau o fewn y diwydiant. Fodd bynnag, bydd y bartneriaeth newydd yn caniatáu mwy o gydweithio er mwyn mireini ddarpariaeth digwyddiadau a phrofiad cyfranogwyr.

Hon yw’r cydweithrediad diweddaraf mae Run 4 Wales wedi ei wneud ar ôl ffurfio cyd-fenter gyda London Marathon Events yn 2023, ble ddaeth y ddau arweinydd mewn digwyddiadau cyfranogiad torfol yng Nghymr a Lloegr at ei gilydd. Mae’r grŵp eang nawr yn cyd-weithio i gynyddu eu heffaith, yn enwedig wrth ysbrydoli pobl ifanc i fod yn fwy actif ac i ehangu amrywiaeth y neu ddigwyddiadau.