Cymraeg

Gwybodaeth am Pobol Lleol

Amseroedd

Mae'r ras fel arfer yn dechrau am hanner dydd gydag athletwyr yn dechrau cyrraedd y safle o 10:00. Mae disgwyl i'r ras ddod i ben am 14:00 a phentref y digwyddiad i gau ganol prynhawn.

Bydd amseriadau penodol i’r digwyddiad yn cael eu manylu yn y Cyfarwyddiadau Terfynol sydd ar gael ar y wefan 10 diwrnod cyn y ras.

Cau ffyrdd

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ac i sicrhau’r profiad gorau a mwyaf diogel i gystadleuwyr a gwylwyr, byddwn yn gofyn am ganiatâd i gau ffyrdd dros dro a gweithredu rheolaeth traffig fel y nodir isod:

  • Church Walks (ar gau o 11:00 tan 14:00)
  • Marine Drive (ar gau o 11:00 tan 14:00)

Bydd y ffyrdd hyn yn cael eu hailagor cyn gynted â phosibl a bydd llwybr dargyfeirio llawn yn ei le.

Byddwn yn anfon llythyr at yr holl drigolion yr effeithir arnynt 4 wythnos cyn dyddiad y digwyddiad.

Gwylio

Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo mewn awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.

Bydd y ras yn dechrau ac yn gorffen yn y promenâd felly byddai hwn yn lle gwych i wylio pawb yn mynd a dod. Rydym yn cynghori gwylwyr i wasgaru ar hyd y cwrs hefyd.

Cymryd Rhan

Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.

Arwyddion a Sbwriel

Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.