Cymraeg

2022 Race Report

Roedd hi’n bleser cyflwyno'r 31ain 10k er cof am Nick Beer eleni, ac am ddiwrnod oedd hi!

Yn dilyn cwrs heriol ‘allan a nôl’ o bromenâd Llandudno a chwmpas y Gogarth, croesawyd dros 550 o redwyr yn ôl i’r ras hyfryd yma, er cof am y diweddar Nick Beer, cyn rhedwr Clwb rhedwyr ffordd gogledd Cymru.

James Yarwood (Abergele Harriers) enillodd y ras hon, gydag amser arbennig o 33 munud a 52 eiliad. Roedd hi’n ras agos, gyda James yn croesi’r llinell derfyn 7 eiliad yn gynt na Benjamin Makin, 33:59, (Blackburn Harries & AC) a 36 eiliad yn gynt na Andrew Bromley, 34.28, o Rhyl.


Cafodd ras y menywod ei dominyddu gan Eleesha Charnley (Cybi Striders), a arweiniodd yr holl ffordd nol i’r promenâd, gan orffen 3 munud ac 17 eiliad yn gynt na’r rhedwyr ail a thrydydd. Cipiodd Amie Bagnall (Cheshire Dragons) yr ail safle (39:48), 9 eiliad yn gynt nag amser Rachael Shipley (Abergele Harriers) yn drydydd, gydag amser o 39.57.

Roedd enillwyr y Grwpiau Oedran wedi’u gwasgaru ar draws nifer o aelodau clybiau lleol a chenedlaethol, gydag enillwyr pob categori isod:

Vets 40-44

  • Benyw Aime Hannnant - 42:11
  • Gwryw: Grant Little (GOG Triathlon) - 38:05

Vets 45-49

  • Benyw: Margot Saher - 46:09
  • Gwryw: Nic Brook (Eryri Harriers) - 36:51

Vets 50-54

  • Benyw: Amanda Bailey - 46:03
  • Gwryw: Carl Shawcross (Medway Tri) - 38:02

Vets 55-59

  • Benyw: Carol Astbury (Uttoxeter Road Runners) - 53:39
  • Gwryw: Anthony Davies (Eryri Harriers) - 43:30

Vets 60-64

  • Benyw: Wendi Evans (Eryri Harriers) - 49:39
  • Gwryw: Steven Gardner (NWRRC) - 41:04

Vets 65-69

  • Benyw: Vivienne Edwards - 1:07:53
  • Gwryw: David Lancaster (City of York AC) - 43:09

Vets 70+

  • Benyw: Liz Evans - 55:31
  • Gwryw: Stephen O'Neill - 54:17

*Canlyniadau:TDL EVENT SERVICES RESULTS