Gwybodaeth Cofrestru
Ble alla i ddod o hyd i'r telerau ac amodau?
Nid wyf yn gallu cymryd rhan mwyach. Beth yw fy opsiynau?
Os na allwch gymryd rhan mewn digwyddiad mwyach mae gennym ddau opsiwn trosglwyddo; trosglwyddo i gystadleuydd arall, neu drosglwyddo i ddigwyddiad arall. Rhaid i drosglwyddiadau ddigwydd o leiaf UN mis calendr cyn y digwyddiad. Am ein telerau ac amodau llawn gweler yma: (Terms and Conditions.)
A oes isafswm oedran i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn?
Gall yr oedran lleiaf amrywio ar gyfer pob pellter rasio oherwydd canllawiau'r Corff Llywodraethol Cenedlaethol. Dewiswch y pellter o dudalen y digwyddiad i ddod o hyd i ofynion Isafswm Oedran penodol ynghyd â gwybodaeth rasio arall.
Oes gennych chi restr aros?
Pan fydd digwyddiad wedi gwerthu allan, bydd opsiwn i ymuno â rhestr aros. Unwaith y bydd lle ar gael byddwch yn cael e-bost, yna bydd gennych 24 awr i brynu'r gofod cyn i hwn gael ei gynnig i'r person nesaf ar y rhestr.
Ydych chi'n cynnig lleoedd elusennol?
Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nifer o elusennau i gefnogi eu codi arian. Os ydych chi'n sefydliad elusennol, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.
Os ydych chi'n unigolyn sydd am gymryd rhan mewn lle elusennol, cysylltwch â ni i gael rhestr o'n partneriaid elusennol cyfredol sy'n cynnig lleoedd.
Mae gen i anabledd ydi'n bosib i mi dal gymryd rhan?
Rydym yn awyddus i wneud ein digwyddiadau mor hygyrch a chynhwysol â phosibl, fodd bynnag, oherwydd lleoliad rhai o'n digwyddiadau a thir y cwrs gall fod cyfyngiadau. Cysylltwch â ni ar info@alwaysaimhighevents.com i drafod eich gofynion a sut y gallem eich cefnogi.
Gwybodaeth Cyn y Digwyddiad
Pryd y byddaf yn derbyn fy Nghyfarwyddiadau Terfynol?
Bydd eich Cyfarwyddiadau Terfynol yn cael eu hanfon atoch o leiaf 10 diwrnod cyn y digwyddiad. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth fanwl y bydd ei hangen arnoch am y digwyddiad a'ch ras benodol gan gynnwys amseriadau wedi'u cadarnhau.
Pryd/sut y byddaf yn derbyn fy mhecyn rasio?
Bydd pecynnau rasio yn cael eu codi wrth gofrestru ym mhentref y digwyddiad cyn dechrau'r ras. Cyhoeddir amseroedd cofrestru ar eich tudalen ras.
Beth sydd yn fy mhecyn rasio?
Bib rhif ras - Angen i'w wisgo ar eich blaen.
Diwrnod y Digwyddiad
Beth yw rheolau'r ras?
Mae ein digwyddiadau yn cael eu cynnal o dan Rheolau Ras UK Athletics.
A oes gennych amseroedd torri i ffwrdd?
Dewiswch y pellter o dudalen y digwyddiad i ddod o hyd i unrhyw amseroedd torri ar gyfer y ras ynghyd â gwybodaeth arall. Mae amseroedd cau ar waith ar gyfer diogelwch yr athletwyr a'n marsialiaid.
Ydych chi'n darparu maeth?
Ydym. Mae dŵr, diodydd egni a geliau ar gael ar y gorsafoedd diod. Gweler mapiau llwybr ar-lein am leoliadau gorsaf fwyd bras. Manylir ar y wybodaeth ddiweddaraf yn eich cyfarwyddiadau terfynol.
Ydw i'n cael defnyddio fy nghlustffonau?
Digwyddiadau rhedeg - mae'r defnydd o glustffonau 'bone conduction' yn ganiataol. Mae'r defnydd o unrhyw fath arall o glustffonau wedi'i wahardd mewn cysylltiad efo rheolau British Athletics a fydd yn achosi gwaharddiad o'r ras.
Triathlon - Nid yw'r defnydd o glustffonau yn ganiataol yn ein digwyddiadau triathlon a duathlon mewn cysylltiad efo rheolau Triathlon Prydain. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o glustffonau 'bone conducting'. Caiff cyfranogwyr a welir yn defnyddio clustffonau ei wahardd.
Lle allaf barcio?
Mae gwybodaeth parcio yn gynwysedig yn eich Cyfarwyddiadau Terfynol fydd yn cael eich e-bostio i chi oeliaf 10 diwrnod cyn y digwyddiad. Mae maes parcio digwyddiadau wedi ei leoli ar dir preifat ym mhentref Capel Curig, taith gerdded 15 munud i Blas y Brenin a chychwyn y ras.
Gwylio
Beth all fy nheulu gwneud?
Mae ein pentref digwyddiad yn addas i deuluoedd ac mae ein holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau gyda llawer ar gael i deuluoedd. Rydym yn ymfalchïo mewn creu awyrgylch gwych i wylwyr fydd yn gallu olrhain y person maen nhw'n ei gefnogi gan ddefnyddio ap fel nad ydyn nhw'n eu colli ar bwyntiau allweddol.
Ar Ôl y Digwyddiad
Ble alla i ddod o hyd i ffotograffau fy nigwyddiad?
Dolen i'r ffotograffydd. Os gwnaethoch brynu pecyn ffotograffau dylech fod wedi derbyn e-bost gyda chyfeirnod a gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i'ch delweddau a'u lawrlwytho.
Arall
A allaf godi arian ar gyfer elusen?
Mae gennym ni nifer o elusennau rydyn ni'n eu cefnogi fel cwmni, ond mae croeso i chi gymryd rhan a chodi arian i elusen sy'n agos at eich calon.
Rhaid i unrhyw gasgliadau bwced yn ein digwyddiadau gael eu hawdurdodi gan yr awdurdod lleol lle mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal. Cyfrifoldeb y codwr arian yw cysylltu â'r awdurdod lleol, cyflwyno cais ac ennill awdurdodiad. Ni allwn wneud hyn ar eich rhan.
Mae gen i gwestiwn na atebwyd yn yr FAQs, sut gallai cysylltu â chi?
Os gwelwch yn dda e-bostiwch ni ar info@alwaysaimhighevents.com, fel arall gallwch ffonio ni ar 01248 723 553
In this section
-
- Nick Beer Llandudno 10k 2025
- Jones o Gymru Hanner Marathon a 10k Môn 2025
- Triathlon Eirias 2025
- Llanc y Llechi 2025
- Triathlon Caerdydd 2025
- Try-a-Tri Bae Caerdydd 2025
- Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
- XTERRA Marathon Llwybr Eryri 2025
- Ogwen | Yr Helgi Du 2025
- Tour de Môn 2025
- Triathlon Llandudno 2025
- Hanner Marathon & 10k Llwybr Môn 2025