Cymraeg

Gwybodaeth am pobol lleol

Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.

Fel aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.

Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg.

Amseroedd

Bydd pentref y digwyddiad yn cael ei adeiladu o ganol bore ddydd Gwener.

Fel arfer, mae'r ras gyntaf yn dechrau am 08:30 ddydd Sadwrn gydag athletwyr yn dechrau cyrraedd y safle o 07:30. Mae disgwyl i'r ras olaf ddod i ben tua 14:30 a bydd pentref y digwyddiad yn cau am 15:00. Mae amseroedd cychwyn rasys penodol yn newidiol a bydd manylion amdanynt yn y Cyfarwyddiadau Terfynol ar y wefan, sydd ar gael 10 diwrnod cyn y ras.

Rheoli Traffig a Chau ffyrdd

Nid oes unrhyw ffyrdd ar gau na rheolaeth traffig yn eu lle ar gyfer y digwyddiad hwn

Parcio

Er mwyn lleihau tagfeydd o amgylch Capel Curig, mae gennym faes parcio penodol i ddigwyddiad. Ceir manylion llawn y rhain ar ein tudalen Teithio a Llety.

Gwylio

Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.

Rydym yn cynghori gwylwyr i wasgaru ar hyd y cwrs.

Cymryd Rhan

Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.

Arwyddion a Sbwriel

Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.