Gwybodaeth i Bobl Lleol
Amseriadau a Chau Ffyrdd
Triathlon & Duathlon Llanc y Llechi, Llanberis
Triathlon & Duathlon Llanc yr Eira, Plas y Brenin
Triathlon & Duathlon Llanc y Tywod, Coedwig Niwbwrch
Gwylio
Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau, i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.
Cymryd Rhan
Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.
Arwyddion a Sbwriel
Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.