Gwybodaeth i Bobl Lleol
Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.
Fel aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.
Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg.
Amseroedd
Fel rheol, rydyn ni'n cymryd dau ddiwrnod i sefydlu cyn y digwyddiad. Bydd athletwyr yn dechrau cyrraedd tua 06:00 ar ddiwrnod y digwyddiad gyda rhai staff yno tua 2 awr cyn dyfodiad athletwyr. Bydd yr holl sŵn yn cael ei gadw i'r lleiafswm llwyr yn ystod oriau anghymdeithasol.
Bydd rasio yn cychwyn am oddeutu 07:30 Dydd Sul.
Mae'r Pentref Digwyddiad yn cau am oddeutu 18:00 ar y dydd Sul.
Bydd amseroedd yn cael ei cadarnhau yn ein pecyn Cyfarwyddiadau Terfynol sydd ar gael ar ein gwefan 10 diwrnod cyn y digwyddiad.
Cau Ffyrdd
Er mwyn rhoi'r profiad gorau a mwyaf diogel i athletwyr, bydd y ffordd fynediad i brif faes parcio'r traeth ar gau am y rhan fwyaf o'r dydd i bawb oni bai cystadleuwyr. Bydd rheolaeth draffig hefyd ar y briffordd i gynorthwyo gyda'r beiciau'n croesi'n ddiogel wrth iddynt rasio.
Gwylio
Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau, i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.
Bod yn Rhan o'r Digwyddiad
Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.
Arwyddion a Sbwriel
Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.