Cymraeg

Digwyddiadau Camu i'r Copa yn dychwelyd i'w gwreiddiau yn Llanberis

Published: 21.06.2021

Sefydlwyd Digwyddiadau Camu i'r Copa yn ôl yn 2010 ac roedd ei swyddfa gyntaf yn y Caban ym Mrynrefail, maent bellach yn gyffrous i gyhoeddi y byddant yn dychwelyd i'w gwreiddiau yn Eryri. Mae'r cwmni digwyddiadau sy'n cynnal rhai ar y digwyddiadau Triathlonau, Beicio a Rhedeg gorau yn y DU, newydd lofnodi cytundeb gyda chyngor Gwynedd i ddatblygu Hwb Digwyddiadau ar safle Glyn Rhonwy yn Llanberis.


Dywedodd Tim Lloyd, Rheolwr Gyfarwyddwr Digwyddiadau Camu i'r Copa, “Mae Llanberis yn cael ei hadnabod yn rhyngwladol fel prifddinas antur awyr agored Cymru a’r DU. Rydym yn hynod falch o'n treftadaeth Gymreig ac mae dychwelyd i Lanberis mor gyffrous. Gan fy mod i wedi cael fy magu fel rhan o'r gymuned leol rwy'n gwybod pa mor bwysig yw ein bod ni'n fusnes awyr agored lleol gyda gwerthoedd craidd sy'n rhoi'r amgylchedd, diwylliant ac iaith wrth galon popeth a wnawn. Rydym yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan wrth lunio a gyrru digwyddiadau presennol ymlaen a rhai newydd a chyffrous, mewn partneriaeth â'n ffrindiau yn y rhan arbennig hon o Gymru."

Ar hyn o bryd mae'r cwmni wedi'i leoli yn Llangefni, Ynys Môn, ac yn gweld y fenter hon fel ychwanegiad newydd yn rhan o'u strategaeth tymor hir hwy i ehangu ledled Gogledd Orllewin Cymru. Eu nod yw darparu swyddi medrus lleol a chyfleoedd sgiliau i bawb sy'n dewis bod yn rhan o'r sector awyr agored iach, diogel a chyffrous hwn.

Aeth Tim ymlaen i ddweud, “er gwaethaf y ffaith ein bod wedi gorfod gohirio nifer o’n digwyddiadau allweddol eto eleni, gwelwn fod cyfle i ddefnyddio’r amser hwn i roi sector digwyddiadau Cymru mewn sefyllfa i ddychwelyd yn gryf unwaith mae'n ddiogel gwneud hynny. Gan ein bod yn un o'r sectorau mwyaf diogel sy'n gweithredu yn yr awyr agored rydym yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol, awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i ddychwelyd cyn gynted ag y gallwn."

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Datblygu’r Economi Cyngor Gwynedd:

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ac rydym yn hynod falch o weld cwmni Camu i’r Copa yn lleoli I safle yn Glyn Rhonwy.

“Mae hi wedi bod yn gyfnod hynod heriol i gwmnïau yn y sector gweithgareddau awyr-agored, ac rydym yn ddiolchgar i Camu i’r Copa a busnesau eraill Gwynedd sydd wedi rhoi diogelwch ein trigolion yn gyntaf dros y flwyddyn a mwy a aeth heibio.

“Mae eu penderfyniad i sefydlu i leoli yng Nglyn Rhonwy yn Llanberis yn garreg filltir pwysig ac rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gydag Camu i’r Copa wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau cyffrous i’r dyfodol.”

Bydd gwaith yn cychwyn ar y safle fel rhan o raglen aml-flwyddyn i ddatblygu'r canolbwynt i'w lawn botensial.