Gwybodaeth Cofrestru
Ble alla i ddod o hyd i'r telerau ac amodau?
Nid wyf yn gallu cymryd rhan mwyach. Beth yw fy opsiynau?
Os na allwch gymryd rhan mewn digwyddiad mwyach mae gennym ddau opsiwn trosglwyddo; trosglwyddo i gystadleuydd arall, neu drosglwyddo i ddigwyddiad arall. Rhaid i drosglwyddiadau ddigwydd o leiaf UN mis calendr cyn y digwyddiad. Am ein telerau ac amodau llawn gweler yma: (Terms and Conditions.)
A allaf newid aelodau fy nhîm?
Ydych. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich e-bost cadarnhau i fewngofnodi a newid manylion aelodau'ch tîm.
A oes isafswm oedran i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn?
Gall yr oedran lleiaf amrywio ar gyfer pob pellter rasio oherwydd canllawiau'r Corff Llywodraethol Cenedlaethol. Dewiswch y pellter o dudalen y digwyddiad i ddod o hyd i ofynion Isafswm Oedran penodol ynghyd â gwybodaeth rasio arall.
Oes gennych chi restr aros?
Pan fydd digwyddiad wedi gwerthu allan, bydd opsiwn i ymuno â rhestr aros. Unwaith y bydd lle ar gael byddwch yn cael e-bost, yna bydd gennych 24 awr i brynu'r gofod cyn i hwn gael ei gynnig i'r person nesaf ar y rhestr.
Ydych chi'n cynnig lleoedd elusennol?
Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nifer o elusennau i gefnogi eu codi arian. Os ydych chi'n sefydliad elusennol, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.
Os ydych chi'n unigolyn sydd am gymryd rhan mewn lle elusennol, cysylltwch â ni i gael rhestr o'n partneriaid elusennol cyfredol sy'n cynnig lleoedd.
Mae gen i anabledd ydi'n bosib i mi dal gymryd rhan?
Rydym yn awyddus i wneud ein digwyddiadau mor hygyrch a chynhwysol â phosibl, fodd bynnag, oherwydd lleoliad rhai o'n digwyddiadau a thir y cwrs gall fod cyfyngiadau. Cysylltwch â ni ar info@alwaysaimhighevents.com i drafod eich gofynion a sut y gallem eich cefnogi.
Gwybodaeth Cyn y Digwyddiad
Pryd y byddaf yn derbyn fy Nghyfarwyddiadau Terfynol?
Bydd eich Cyfarwyddiadau Terfynol yn cael eu hanfon atoch o leiaf 7 diwrnod cyn y digwyddiad. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth fanwl y bydd ei hangen arnoch am y digwyddiad a'ch ras benodol gan gynnwys amseriadau wedi'u cadarnhau.
Pryd/sut y byddaf yn derbyn fy mhecyn rasio?
Bydd pecynnau rasio yn cael eu codi wrth gofrestru ym mhentref y digwyddiad cyn dechrau'r ras. Cyhoeddir amseroedd cofrestru ar eich tudalen ras.
Beth sydd yn fy mhecyn rasio?
Bib rhif ras - Angen i'w wisgo ar eich blaen.
Diwrnod y Digwyddiad
Beth yw rheolau'r ras?
Mae ein digwyddiadau yn cael eu cynnal o dan Rheolau Ras UK Athletics.
A oes gennych amseroedd torri i ffwrdd?
Dewiswch y pellter o dudalen y digwyddiad i ddod o hyd i unrhyw amseroedd torri ar gyfer y ras ynghyd â gwybodaeth arall. Mae amseroedd cau ar waith ar gyfer diogelwch yr athletwyr a'n marsialiaid.
Ydych chi'n darparu maeth?
Ydym. Mae dŵr, diodydd egni a geliau ar gael ar y gorsafoedd diod. Gweler mapiau llwybr ar-lein am leoliadau gorsaf fwyd bras. Manylir ar y wybodaeth ddiweddaraf yn eich cyfarwyddiadau terfynol.
Ydw i'n cael defnyddio fy nghlustffonau?
Digwyddiadau rhedeg - mae'r defnydd o glustffonau 'bone conduction' yn ganiataol. Mae'r defnydd o unrhyw fath arall o glustffonau wedi'i wahardd mewn cysylltiad efo rheolau British Athletics a fydd yn achosi gwaharddiad o'r ras.
Triathlon - Nid yw'r defnydd o glustffonau yn ganiataol yn ein digwyddiadau triathlon a duathlon mewn cysylltiad efo rheolau Triathlon Prydain. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o glustffonau 'bone conducting'. Caiff cyfranogwyr a welir yn defnyddio clustffonau ei wahardd.
Lle allaf barcio?
Mae gwybodaeth parcio yn gynwysedig yn eich Cyfarwyddiadau Terfynol fydd yn cael eich e-bostio i chi oeliaf 10 diwrnod cyn y digwyddiad. Os gwelwch yn dda byddwch yn feddylgar o breswylwyr lleol wrth barcio a defnyddiwch feysydd parcio talu ac arddangos lle yn bosibl.
Gwylio
Oes unrhyw traciwr byw?
Mae traciwr byw yn cael ei ddarparu gan ein partneriaid amseru TDL. Er mwyn cael mynediad i'r traciwr byw, lawr lwythwch yr ap neu fynd i'w gwefan yn defnyddio'r ddolen a fydd yn eich cyfarwyddiadau terfynol.
Beth all fy nheulu gwneud?
Mae ein pentref digwyddiad yn addas i deuluoedd ac mae ein holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau gyda llawer ar gael i deuluoedd. Rydym yn ymfalchïo mewn creu awyrgylch gwych i wylwyr fydd yn gallu olrhain y person maen nhw'n ei gefnogi gan ddefnyddio ap fel nad ydyn nhw'n eu colli ar bwyntiau allweddol.
Ar Ôl y Digwyddiad
Ble alla i ddod o hyd i ffotograffau fy nigwyddiad?
Dolen i'r ffotograffydd. Os gwnaethoch brynu pecyn ffotograffau dylech fod wedi derbyn e-bost gyda chyfeirnod a gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i'ch delweddau a'u lawrlwytho.
Arall
A allaf godi arian ar gyfer elusen?
Mae gennym ni nifer o elusennau rydyn ni'n eu cefnogi fel cwmni, ond mae croeso i chi gymryd rhan a chodi arian i elusen sy'n agos at eich calon.
Rhaid i unrhyw gasgliadau bwced yn ein digwyddiadau gael eu hawdurdodi gan yr awdurdod lleol lle mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal. Cyfrifoldeb y codwr arian yw cysylltu â'r awdurdod lleol, cyflwyno cais ac ennill awdurdodiad. Ni allwn wneud hyn ar eich rhan.
Mae gen i gwestiwn na atebwyd yn yr FAQs, sut gallai cysylltu â chi?
Os gwelwch yn dda e-bostiwch ni ar info@alwaysaimhighevents.com, fel arall gallwch ffonio ni ar 01248 723 553
In this section
-
- Nick Beer Llandudno 10k 2025
- Jones o Gymru Hanner Marathon a 10k Môn 2025
- Triathlon Eirias 2025
- Llanc y Llechi 2025
- Triathlon Caerdydd 2025
- Try-a-Tri Bae Caerdydd 2025
- Black Diamond Yr Wyddfa24 2025
- XTERRA Marathon Llwybr Eryri 2025
- Ogwen | Yr Helgi Du 2025
- Tour de Môn 2025
- Triathlon Llandudno 2025
- Hanner Marathon & 10k Llwybr Môn 2025