Gwybodaeth Cofrestru
Ble alla i ddod o hyd i'r telerau ac amodau?
Nid wyf yn gallu cymryd rhan mwyach. Beth yw fy opsiynau?
Os na allwch gymryd rhan mewn digwyddiad mwyach mae gennym ddau opsiwn trosglwyddo; trosglwyddo i gystadleuydd arall, neu drosglwyddo i ddigwyddiad arall. Rhaid i drosglwyddiadau ddigwydd o leiaf UN mis calendr cyn y digwyddiad. Am ein telerau ac amodau llawn gweler yma: (Terms and Conditions.)
A allaf newid aelodau fy nhîm?
Ydych. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich e-bost cadarnhau i fewngofnodi a newid manylion aelodau'ch tîm.
A oes isafswm oedran i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn?
Gall yr oedran lleiaf amrywio ar gyfer pob pellter rasio oherwydd canllawiau'r Corff Llywodraethol Cenedlaethol. Dewiswch y pellter o dudalen y digwyddiad i ddod o hyd i ofynion Isafswm Oedran penodol ynghyd â gwybodaeth rasio arall.
Oes gennych chi restr aros?
Pan fydd y digwyddiad yn gwerthu allan bydd opsiwn i ymuno â rhestr aros. Unwaith y bydd lle ar gael byddwch yn cael e-bost, yna bydd gennych 24 awr i brynu'r lle cyn i hwn gael ei gynnig i'r person nesaf ar y rhestr.
Ydych chi'n cynnig lleoedd elusennol?
Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nifer o elusennau i gefnogi eu codi arian. Os ydych chi'n sefydliad elusennol, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.
Os ydych chi'n unigolyn sydd am gymryd rhan mewn lle elusennol, cysylltwch â ni i gael rhestr o'n partneriaid elusennol cyfredol sy'n cynnig lleoedd.
Mae gen i anabledd ydi'n bosib i mi dal gymryd rhan?
Rydym yn awyddus i wneud ein digwyddiadau mor hygyrch a chynhwysol â phosibl, fodd bynnag, oherwydd lleoliad rhai o'n digwyddiadau a thir y cwrs gall fod cyfyngiadau. Cysylltwch â ni ar info@alwaysaimhighevents.com i drafod eich gofynion a sut y gallem eich cefnogi.
Beth yw aelodaeth diwrnod BTF a pham mae ei angen?
Mae trwydded diwrnod BTF yn drwydded ar gyfer rasio ac mae'n cynnwys eich yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am y diwrnod. Os nad ydych chi eisoes yn aelod Triathlon Prydain mae angen aelodaeth ddydd arnoch i gydymffurfio â Rheolau Cystadleuaeth Triathlon Prydain sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cystadleuydd fod yn aelod o'r gamp am y dydd.
Mae'n ddilys ar ddiwrnod eich cystadleuaeth ac ni ellir ei drosglwyddo. Dewch â siec neu'r newid cywir o £5 i brynu'ch aelodaeth wrth gofrestru. Os ydych chi'n aelod cysylltiedig o Ffederasiwn Triathlon Prydain neu ffederasiwn eich mamwlad cyflwynwch eich ID aelodaeth flynyddol i'n tîm wrth gofrestru.
Gwybodaeth Cyn y Digwyddiad
Pryd y byddaf yn derbyn fy Nghyfarwyddiadau Terfynol?
Bydd eich Cyfarwyddiadau Terfynol yn cael eu hanfon atoch o leiaf 10 diwrnod cyn y digwyddiad. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth fanwl y bydd ei hangen arnoch am y digwyddiad a'ch ras benodol gan gynnwys amseriadau wedi'u cadarnhau.
Pryd/sut y byddaf yn derbyn fy mhecyn rasio?
Bydd pecynnau rasio yn cael eu codi wrth gofrestru ym mhentref y digwyddiad cyn dechrau'r ras. Cyhoeddir amseroedd cofrestru ar eich tudalen ras.
Beth sydd yn fy mhecyn rasio?
- 'Chip' Amseru - rhaid ei chysylltu i'ch ffêr gyda'r strap Felcro wedi'i darparu a'i dychwelyd i'r trefnwyr ar y llinell gorffen ONI BAI eich bod chi'n gystadleuydd Savage. RHAID i gystadleuwyr Savage sicrhau eu bod yn cadw eu tag yn dilyn y pellter sbrint gan y byddant yn defnyddio'r un tag ar gyfer y pellter Llawn y diwrnod canlynol. Codir tâl o £55 am 'chip' amseru coll neu sydd heb eu dychwelyd.
- Bib rhif ras - Angen i'w wisgo ar eich cefn i'r adran beicio ac ar eich blaenau i'r adran rhedeg. Gall belt rasio triathlon eich helpu i gyfnewid eich bib yn gyflym o'r cefn i'r blaen ac ar gael i'w brynu o'r siop Camu i'r Copa. Mae timau a chystadleuwyr Savage yn cael ei ddarparu efo 2 bib.
- Fflag Beic - Pilio'r cefn a chysylltwch i bost sedd eich beic
- Het nofio â chod lliw - gweler adran diwrnod y ras am fwy o fanylion. Os ydych eisoes efo'r lliw het ofynnol gellir dychwelyd yr het heb ei ddefnyddio wrth y man ollwng yn cofrestru fel rhan o ein menter amgylcheddol
Pa don ydw i ynddo?
Byddwch yn gallu darganfod y don y dyrannwyd ichi iddi trwy'r traciwr byw tua 10 diwrnod cyn y digwyddiad. Mae tonnau'n dibynnu ar eich amcangyfrif o amser rasio cyffredinol. Cyhoeddir amseroedd tonnau yn y cyfarwyddiadau terfynol.
Diwrnod y Digwyddiad
Beth yw rheolau'r ras?
Mae ein digwyddiadau yn cael eu cynnal o dan Rheolau Ras Triathlon Prydain.
A oes gennych amseroedd torri i ffwrdd?
Dewiswch y pellter o dudalen y digwyddiad i ddod o hyd i unrhyw amseroedd torri ar gyfer y ras ynghyd â gwybodaeth arall. Mae amseroedd cau ar waith ar gyfer diogelwch yr athletwyr a'n marsialiaid.
Ydych chi'n darparu maeth?
Ydym. Mae dŵr, diodydd egni a geliau ar gael ar y gorsafoedd diod. Gweler mapiau llwybr ar-lein am leoliadau gorsaf fwyd bras. Manylir ar y wybodaeth ddiweddaraf yn eich cyfarwyddiadau terfynol.
Ydw i'n cael defnyddio fy nghlustffonau?
Digwyddiadau rhedeg - mae'r defnydd o glustffonau 'bone conduction' yn ganiataol. Mae'r defnydd o unrhyw fath arall o glustffonau wedi'i wahardd mewn cysylltiad efo rheolau British Athletics a fydd yn achosi gwaharddiad o'r ras.
Triathlon - Nid yw'r defnydd o glustffonau yn ganiataol yn ein digwyddiadau triathlon a duathlon mewn cysylltiad efo rheolau Triathlon Prydain. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o glustffonau 'bone conducting'. Caiff cyfranogwyr a welir yn defnyddio clustffonau ei wahardd.
Be allai mynd efo fi i'r adran pontio?
Dylai cystadleuwyr dim ond dod a chyfarpar i mewn i'r adran pontio a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y gystadleuaeth. Gellir defnyddio bag bach ag ochrau meddal fel sach deithio ac aros yn y cyfnod pontio, er na ddylai rwystro cynnydd cystadleuydd arall. Mae'r manylion llawn yn Rheolau Triathlon Prydain.
Ydi 'wetsuit' yn ofynnol?
Dylech ddod a 'wetsuit' i bob digwyddiad. O dan reolau BTF mae 'wetsuits' unai yn ofynnol, dewisol neu yn waharddedig yn dibynnu ar gyfuniad o bellter nofio a thymheredd y dŵr.
I fyny at 1500m: Waharddedig uwchben 22°C, Dewisol rhwng 22°C a 14°C, Gofynnol o dan 14°C
1501-3000m: Waharddedig uwchben 23°C, Dewisol rhwng 23°C a 15°C, Gofynnol o dan 15°C
3001-4000m: Waharddedig uwchben 24°C, Dewisol rhwng 24°C a 16°C, Gofynnol o dan 16°C
Mae 'wetsuits' gofynnol angen gorchuddio o leiaf y torso
Gallwch wisgo unrhyw fath o 'westuit' gan gynnwys 'shorties'
Lle mae 'wetsuit' yn ofynnol, caniateir sanau. Ni chaniateir menig.
Oes unrhyw gyfyngiadau ar y fath o feic y gallaf ddefnyddio?
Nid yw beiciau-E neu unrhyw feic gyda chymorth pŵer yn ganiataol. Mae pob math arall o feic, gan gynnwys beiciau mynydd yn ganiataol. Nid ydych angen beic drud i unrhyw raddau er mwyn cymryd rhan.
Ydych yn llogi beiciau/'wetsuits'?
Nid ydi Camu i'r Copa yn llogi beiciau na 'wetsuits'.
Lle allaf barcio?
Mae gwybodaeth parcio yn gynwysedig yn eich Cyfarwyddiadau Terfynol fydd yn cael eich e-bostio i chi oeliaf 10 diwrnod cyn y digwyddiad. Os gwelwch yn dda byddwch yn feddylgar o breswylwyr lleol wrth barcio a defnyddiwch feysydd parcio talu ac arddangos lle yn bosibl.
Gwylio
Oes unrhyw traciwr byw?
Mae canlyniadau byw, sy'n cynnwys manylion y pwyntiau a basiwyd gan bob cyfranogwr, yn cael eu darparu gan ein partneriaid amseru TDL Event Services. I gael mynediad at y canlyniadau byw, defnyddiwch y ddolen a fydd yn eich Cyfarwyddiadau Terfynol.
Beth all fy nheulu gwneud?
Mae ein pentref digwyddiad yn addas i deuluoedd ac mae ein holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau gyda llawer ar gael i deuluoedd. Rydym yn ymfalchïo mewn creu awyrgylch gwych i wylwyr fydd yn gallu olrhain y person maen nhw'n ei gefnogi gan ddefnyddio ap fel nad ydyn nhw'n eu colli ar bwyntiau allweddol.
Ar Ôl y Digwyddiad
Ble alla i ddod o hyd i ffotograffau fy nigwyddiad?
Dolen i'r ffotograffydd. Os gwnaethoch brynu pecyn ffotograffau dylech fod wedi derbyn e-bost gyda chyfeirnod a gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i'ch delweddau a'u lawrlwytho.
Arall
A allaf godi arian ar gyfer elusen?
Mae gennym ni nifer o elusennau rydyn ni'n eu cefnogi fel cwmni, ond mae croeso i chi gymryd rhan a chodi arian i elusen sy'n agos at eich calon.
Rhaid i unrhyw gasgliadau bwced yn ein digwyddiadau gael eu hawdurdodi gan yr awdurdod lleol lle mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal. Cyfrifoldeb y codwr arian yw cysylltu â'r awdurdod lleol, cyflwyno cais ac ennill awdurdodiad. Ni allwn wneud hyn ar eich rhan.
Mae gen i gwestiwn na atebwyd yn yr FAQs, sut gallai cysylltu â chi?
Gweler ein tudalen Cwestiynau Cyffredin llawn am atebion i gwestiynau mwy cyffredinol.
Os na ellir ateb eich ymholiad yno, anfonwch e-bost atom yn info@alwaysaimhighevents.com, fel arall gallwch ein ffonio ar 01248 723 553
In this section
-
- FAQs
- Teithio a Llety
- Gwybodaeth am bobl leol
- Gwirfoddoli
- Superfeet Sandman Triathlon 2024
- Superfeet Sandman Duathlon 2024
- Llandudno Triathlon 2024
- Llandudno Triathlon 2024
- Anglesey Trail Half Marathon & 10K 2024
- Anglesey Trail Cani-cross 2024
- Nick Beer Llandudno 10k 2025
- Jones o Gymru Anglesey Half Marathon and 10k 2024 copy
- Adventure Championships Triathlon 2024
- Adventure Championships Duathlon 2024
- Harlech Triathlon 2024 copy
- Harlech Duathlon 2024 copy
- Slateman Triathlon 2024
- Triathlon Y Bala 2024
- Tour de Môn 2024
- Craft Snowman Duathlon 2024
- Craft Snowman Triathlon 2024
- Aquasphere Snowman Swim 2024
- Ogwen25 | Yr Helgi Du 2024
- Black Diamond Yr Wyddfa24 2024
- XTERRA Marathon Llwybr Eryri 2024
- Aquasphere Cardiff Bay Try a Tri Swim 2024
- Slateman Duathlon 2024
- Slateman Triathlon 2024
- Harlech Triathlon 2024
- Harlech Duathlon 2024
- Jones o Gymru Hanner Marathon a 10k Môn 2024