Cymraeg

Teithio i Llanberis

Mae gan Lanberis, Gogledd Cymru, cysylltiadau teithio gwych ac mae'n hynod o hawdd i'w ffeindio. Defnyddiwch y god bost LL55 4UR i gyrraedd pentref y digwyddiad.

Trên

Mae gwasanaethau uniongyrchol (gan gynnwys trenau Virgin o Lundain i Fangor) yn mynd a chi i gyrchfannau arfordirol poblogaidd Gogledd Cymru o'r rhan fwyaf o Brydain.

Yr orsaf agosaf i Lanberis yw Bangor, sydd ychydig o dan 10 milltir i ffwrdd. Fydd tacsi o fan yma yn costio oddeutu £35 neu bydd y bws 'Sherpa' rhif 2 yn mynd a chi o'r orsaf ac yn costio rhwng £3-£5. Mae hefyd yn bosib beicio.

Bangor to Llanberis bus timetable

National Rail
03457 48 49 50

Transport For Wales
0333 3211 202

Car

Mae ffordd sydyn, syml o'r Gogledd Orllewin ar hyd yr M56 a'r A55. Mae cysylltiadau traffordd â Chanolbarth Lloegr yn dda hefyd, ac mae'r un ffyrdd - yr M6, M5 a'r M1 - hefyd yn dod ag Eryri o fewn cyrraedd hawdd i Dde Lloegr.

Parcio - Byddwn yn darparu lleoedd parcio cost isel am gyfnod y digwyddiad ar gyrion Llanberis. Byddwch yn ymwybodol y dylid osgoi parcio o fewn yr ardaloedd preswyl, defnyddiwch feysydd parcio swyddogol yn unig wrth fynychu'r digwyddiad.

Môr

Mae Irish Ferries a Stena Line yn gweithredu gwasanaethau cyson a chyflym i Gaergybi o Ddulyn.

Irish Ferries
08717 300 400

Stena Line
08447 707 070

Awyr

Mae trosglwyddiadau o byrth rhyngwladol Manceinion, Lerpwl a Birmingham yn cymryd llai na dwy awr.

Manchester Airport
08712 710711

Liverpool John Lennon Airport
08715 218484

Birmingham Airport
0871 2220072

Lle i Aros

Sylwch fod faniau parcio dros nos ym meysydd parcio Llanberis, yn enwedig y 'Lagwnau' a cheir neu faniau mewn lleoliadau preswyl ar ymyl y ffordd yn amharu ar y gymuned leol ac yn creu drwgdeimlad tuag at ddigwyddiadau. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n parcio'n ystyriol ac yn dod o hyd i lety mewn lleoliadau cydnabyddedig.

Mae Llanberis a'r ardaloedd cyfagos yn cynnig ystod eang o westai, gwely a brecwast, gwersylloedd a hosteli.

Rydym yn argymell gwesty Royal Victoria sydd yn gwesty fawr wedi'i leoli yn Llanberis ac o fewn pellter cerdded hawdd o holl gynnwrf y rasio.

Gallwch ddarganfod mwy o argymhellion ar gyfer llefydd i fwyta ac yfed o gwmpas yr ardal ar ein tudalen Teithio Cyfrifol.

Cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i fanylion llety ychwanegol sydd ar gael yn Llanberis a'r cyffiniau. Ni chaniateir cysgu mewn faniau na cheir dros nos mewn meysydd parcio yn Llanberis.

Wales Directory

Visit Snowdonia

Air BnB

Campsites

YHA

Archebwch lety mor fuan ac sy'n bosibl gan fydd pob gwesty yn cael ei archebu ymhell cyn penwythnos y ras.

Os gwelwch yn dda soniwch am Triathlon Llanc y Llechi wrth archebu eich arhosiad.