Cymraeg

Info for locals copy

Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.

Fel aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.

Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg.

Covid-19

Diogelwch pawb sy'n mynychu ein digwyddiadau yw ein prif flaenoriaeth, ewch i'n tudalen Covid-19 i weld y wybodaeth ddiweddaraf ar sut y byddwn yn cyflwyno digwyddiad diogel cofiadwy yn y gymuned. Sylwch y gall yr holl amseriadau isod newid.

Amseroedd

Fel arfer mae'n cymryd dau ddiwrnod i sefydlu'r digwyddiad. Bydd athletwyr yn dechrau cyrraedd tua 07:00 ddydd Sadwrn a 05:00 ddydd Sul, ac mae staff yn cyrraedd y safle tuag awr o'u blaenau. Yn ystod oriau anghymdeithasol bydd yr holl sŵn yn cael ei gadw mor isel â phosibl.

Ddydd Sadwrn bydd:

4 pellter o nofio dŵr agored

Dydd Sul bydd:

Triathlon Sbrint Byr
Triathlon Sbrint a Duathlon
Pellter sbrint - Cymhwyster Grŵp Oedran Triathlon y Byd, Pencampwriaeth Grŵp Oedran Prydain, Pencampwriaeth Triathlon Cymru.
Triathlon Olympaidd
Triathlon Legend

Mae'r pentref digwyddiad yn debygol o gau am tua 18:00 ar y ddau ddiwrnod.

Manylir ar amseriadau digwyddiad penodol yn y Cyfarwyddiadau Terfynol sydd ar gael ar y wefan 10 diwrnod cyn y ras.

Rheoli Traffig a Chau ffyrdd

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ac i sicrhau bod cystadleuwyr a gwylwyr yn cael y profiad gorau a mwyaf diogel, byddwn yn gofyn am ganiatâd i gau ffyrdd dros dro a rhoi dargyfeiriadau eraill yn eu lle fel y nodir isod:

Dydd Sadwrn

Dim cau ffyrdd

Dydd Sul

Er mwyn rhoi’r profiad gorau a mwyaf diogel i’r cystadleuwyr a’r gwylwyr, rydym wedi cael caniatâd i gau’r ffyrdd canlynol a rhoi dargyfeiriadau amgen ar waith:

Rhwng 06:00 a 10:30:

  • International Drive i'w gyffordd efo Olympian Drive
  • Olympian Way, Watkiss Way ac i'r chwith ar Dunleavy Drive o'i gyffordd efo Watkiss Way i'w gyffordd efo Dunleavy Drive Retail Park

Rhwng 06:00 a 15:00

  • East Tyndall Street o'i gyffordd efo Schooner Way i'w gyffordd efo Herbert Street a Lloyd George Avenue
  • Lloyd George Avenue o'i gyffordd efo Herbert Street i'w gyffordd efo Bute Place - Bydd mynediad allan o eiddo Lloyd George Avenue yn cael ei gynnal gan Stiwardiaid Cau Ffordd ar ddiwrnod y digwyddiad.
  • Bute Place o'i gyffordd efo Lloyd George Avenue i'w gyffordd efo Pierhead Street.
  • James Street, Clarence Road, Avondale Road a Ferry Road i'w gyffordd efo Clive Street.

Mae preswylwyr Channel View ac ardal Clive Street sydd angen cael eu ceir allan cyn i'r ffordd ailagor yn cael eu hannog i barcio ym maes parcio'r IKEA dros nos ddydd Sadwrn. Rydym yn ddiolchgar iawn i IKEA am roi'r cyfle hwn i ni, ond nodwch fod ceir yn cael eu gadael mewn perygl perchnogion.

Bydd darpariaethau i drigolion Clawdd Clarence, Pomeroy Street, Hamadryad Road, Clarence Place, Hunter Street, Burt Street, Burt Place, Harrowby Place, Harrowby Lane, Harrowby Street i fynd i mewn ac allan o'r ardal gaeedig trwy gydol y dydd. Rhaid i chi ddilyn cyfarwyddiadau’r stiwardiaid yn llym.

Disgwyliwch oedi os ydych chi'n teithio yn yr ardal. Bydd stiwardiaid wrth law i arwain a chynorthwyo ac, os bydd argyfwng, byddant yn gallu hebrwng cerbydau i mewn ac allan fel a phan fo hynny'n briodol.

Fel cwmni o Gymru rydym yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch ac anghyfleustra â phosib, a diolchwn ichi ymlaen llaw am eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth helpu i ddod â Thriathlon Prifddinas i Gymru. Dewch allan i gefnogi'r beicwyr a'r rhedwyr wrth iddynt basio a rhoi croeso Cymreig enfawr iddynt. Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â'r ras, cysylltwch â ni.

Parcio

Rydym yn cyfeirio ein hathletwyr at y meysydd parcio talu ac arddangos sydd wedi'u lleoli o amgylch Caerdydd.

Gwylio

Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau, i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.

Y lle gorau i wylio’r holl gyffro fydd ym Mae Caerdydd, byddwch yn gallu gweld y nofio, ardal Pontio, llwybr beicio yn ogystal â’r ardal rhedeg a gorffen.

Mae croeso i chi ddod i mewn i'r pentref digwyddiadau, mwynhau'r awyrgylch ac ymweld â'n stondinau masnach.

Cymryd Rhan

Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.

Arwyddion a Sbwriel

Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.