Info for Locals copy
Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.
Fel aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.
Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg.
Amseriadau
Fel arfer mae'n cymryd dau ddiwrnod i osod i fyny digwyddiad penwythnos y Llanc y Llechi. Bydd athletwyr yn dechrau cyrraedd tua 07:00 ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, ac mae staff yn cyrraedd y safle tua 2 awr cyn hynny. Yn ystod oriau anghymdeithasol bydd yr holl sŵn yn cael ei gadw mor isel â phosibl.
Dydd Sadwrn bydd:
- Triathlon Sbrint a Duathlon
Dydd Sul bydd:
- Triathlon Safonol a Duathlon
- Triathlon Legend
Mae'r pentref digwyddiad yn debygol o gau am tua 13:00 ar dydd Sadwrn a 19:00 ar y dydd Sul.
Manylir ar amseriadau digwyddiad penodol yn y Cyfarwyddiadau Terfynol sydd ar gael ar y wefan 10 diwrnod cyn y ras.
Rheoli Traffig a Chau ffyrdd
Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl a sicrhau’r profiad gorau a mwyaf diogel i gystadleuwyr a gwylwyr, byddwn yn gofyn am ganiatâd i gau un ffordd dros dro ac yn gweithredu rheolaeth traffig ysbeidiol fel y nodir isod:
Dydd Sadwrn
- cau Pass Llanberis rhwng maes parcio Nant Peris a'r gyffordd gyda'r A4086/A498 yng Ngwesty Pen y Gwryd. Ni fydd yr A498 yn cael ei effeithio.
- gweithredu Stop/Ewch ar yr A4086 gyferbyn â'r Ganolfan, Llanberis.
Unwaith y bydd y beicwyr olaf wedi cyrraedd copa Pen y Pass o Ben y Gwryd ac ar eu ffordd yn ôl i Lanberis, bydd y ffordd yn cael ei hail-agor. Disgwylir y bydd hyn yn digwydd tua 12:00.
Dydd Sul
- gweithredu Stop/Ewch ar yr A4086 gyferbyn â'r Ganolfan, Llanberis.
Byddwn yn anfon llythyr at yr holl drigolion yr effeithir arnynt chwe wythnos cyn dyddiad y digwyddiad. Bydd copi o'r llythyr hwnnw hefyd ar gael yma.
Parcio
Gwyddom y gall meysydd parcio ar gyfer ein hathletwyr roi pwysau ar y lleoedd cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer cartrefi a busnesau lleol, ac rydym yn gwneud hyn yn glir i’n hathletwyr. Yn ogystal ag arwyddion manwl yn y digwyddiad, rydym yn cyfleu pwysigrwydd parcio ystyriol yn ein Cyfarwyddiadau Terfynol, a anfonir cyn y digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys:
- hyrwyddo rhannu ceir i athletwyr.
- manylion ar sut i deithio i Lanberis ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- arwyddion i'r maes parcio a theithio gerllaw.
- gwybodaeth fanwl am unrhyw fannau parcio digwyddiadau dynodedig y cytunwyd arnynt ymlaen llaw.
- gwybodaeth am barcio cyfrifol dros nos.
Gwylio
Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau, i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.
Cymryd Rhan
Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.
Arwyddion a Sbwriel
Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.
Gellir dod o hyd i fapiau o'r llwybrau athletwyr trwy glicio ar bellteroedd y ras ar brif dudalen y digwyddiad. Rydym yn argymell y mannau hyn ar gyfer gwylio.
Bydd yr ardal orau o amgylch pentref y digwyddiad oherwydd byddwch chi'n gallu gweld pawb yn cychwyn ac yna'r ras am y gorffeniad.
Mae croeso i chi ddod i mewn i'r Pentref Digwyddiad i fwynhau'r awyrgylch ac ymweld â'n stondinau masnach. Nid oes unrhyw dâl i fynd i mewn.
Efallai y bydd cyfyngiadau ar wylwyr oherwydd Covid-19.