Cymraeg

Info for locals copy

Covid-19

Diogelwch pawb sy'n mynychu ein digwyddiadau yw ein prif flaenoriaeth, ewch i'n tudalen Covid-19 i weld y wybodaeth fwyaf diweddar ar sut y byddwn yn cyflwyno digwyddiad diogel cofalent yn y gymuned. Sylwch y gall yr holl amseriadau isod newid.

Amseroedd


Bydd y ras gyntaf yn cychwyn am 13:00 gydag athletwyr yn dechrau cyrraedd y safle o 10:00. Disgwylir i'r ras olaf ddod i ben am 17:00 a phentref y digwyddiad i gau am 19:00.

Cau Ffyrdd

Nid oes unrhyw ffyrdd yn cau yn ystod y digwyddiad hwn, ond cofiwch y bydd beicwyr ar y ffyrdd felly cynlluniwch amser ychwanegol ar gyfer eich taith.

Gwylio

Yn unol â Chanllawiau ac Arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru'r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, nid yw Gwylwyr yn cael eu hannog ar hyn o bryd yn ein digwyddiadau oherwydd Covid-19. Ewch i'n tudalen Covid-19 i weld y wybodaeth fwyaf diweddar ar sut y byddwn yn cyflwyno digwyddiad diogel covid.Gobeithiwn groesawu gwylwyr yn ôl cyn gynted ag y gallwn a byddwn yn diweddaru gwybodaeth yma felly gwiriwch yn ôl yn agosach at y digwyddiad.

Cymryd Rhan

Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.

Arwyddion a Sbwriel

Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.

Gellir dod o hyd i fapiau o'r llwybrau athletwyr trwy glicio ar bellteroedd y ras ar brif dudalen y digwyddiad. Rydym yn argymell y mannau hyn ar gyfer gwylio.

  • Bydd yr ardal laswellt o dan y llinell derfyn yn caniatáu ichi weld y nofwyr ar y ffordd i bontio ac yna'r darn rhedeg cyn iddynt fynd ar y mynydd.
  • Mae yna nifer o gilfachau ar y llwybrau beicio, fodd bynnag, byddem yn gofyn, os dewiswch wylio ar y llwybr beicio, gyrru'n ofalus a bod yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y ffordd gan gynnwys y triathletwyr, a pharcio'n ddiogel oddi ar y ffordd.

Mae croeso i chi ddod i mewn i'r Pentref Digwyddiad i fwynhau'r awyrgylch ac ymweld â'n stondinau masnach. Nid oes unrhyw dâl i fynd i mewn. Efallai y bydd cyfyngiadau ar wylwyr oherwydd Covid-19.

Event Partners