Gwybodaeth i Bobl Leol
Mae Digwyddiadau Camu i'r Copa yn gwmni annibynnol Cymreig a grëwyd i arddangos amgylchedd prydferth ein mamwlad i athletwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cymunedau sy'n byw yn y mannau y cynhelir ein digwyddiadau i leihau unrhyw aflonyddwch a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fusnesau lleol elwa.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cynghori diogelwch ac mae ein holl ddigwyddiadau wedi'u caniatáu gan y Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol perthnasol; mae hyn yn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau diogelwch uchaf ac yn cael eu rhedeg yn broffesiynol gyda'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal leol.
Fel aelodau o Gymdeithas Eryri, rydym yn gwirfoddoli i gynnal safonau amgylcheddol yn ogystal â bod yn rhan o a chefnogi grwpiau cymunedol lleol ac elusennau trwy roddion, sy'n bosibl oherwydd ein ffioedd mynediad. Rydym yn parchu ein diwylliant a’n hiaith, ac mae ein holl arwyddion digwyddiadau a gwefan ar gael yn Gymraeg. Mae ein cynnyrch a'n gwasanaethau i gyd yn dod o ffynonellau lleol.
Mae'r wybodaeth isod yn rhoi gwybodaeth benodol i bobl leol ar sut y bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg.
Amseroedd
Bydd pentref y digwyddiad yn cael ei adeiladu o ganol bore ddydd Sadwrn.
Fel arfer, mae'r ras gyntaf yn dechrau am 09:00 ddydd Sul gydag athletwyr yn dechrau cyrraedd y safle o 08:00. Mae disgwyl i'r ras olaf ddod i ben tua 12:30 a bydd pentref y digwyddiad yn cau am 14:00. Mae amseroedd cychwyn rasys penodol yn newidiol a bydd manylion amdanynt yn y Cyfarwyddiadau Terfynol ar y wefan, sydd ar gael 10 diwrnod cyn y ras.
Rheoli Traffig a Chau ffyrdd
Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ac i sicrhau’r profiad gorau a mwyaf diogel i gystadleuwyr a gwylwyr, byddwn yn gofyn am ganiatâd i gau’r ffyrdd canlynol dros dro:
- Fforydd y Ffair (ar gau o 12:00 2/3/24 i 15:00 3/3/24)
- Lôn Cylbedlam (10:00-13:00 3/3/24)
- Lôn Cei Bont o'r Anglesey Arms i Water Street i'r Liverpool Arms (08:00 to 10:15 3/3/24)
- Ffordd Cynan (ar gau o 08:00 i 10:15 3/3/24)
- Ffordd y Coleg (ar gau o 08:00 i 10:15 3/3/24)
- Ffordd Cambria, Porthaethwy (ar gau o 08:00 i 10:15 3/3/24)
- A545 Y Sgwâr, Porthaethwy (ar gau 08:00 i 10:15 3/3/24)
- A545 Stryd y Bont, Porthaethwy (ar gau o 08:00 i 10:15 3/3/24)
- A545 Ffordd Telford, Porthaethwy (ar gau o 08:00 i 10:15 3/3/24)
- Tafarn y Bont/Anglesey Arms i'r Sgwâr (ar gau o 08:00 i 10:00 3/3/24)
- Prif ffordd yr A545 o Y Sgwâr, Porthaethwy i Orsaf Betrol Texaco, Biwmares (ar gau o 08:00 i 13:00 3/3/24)
Mae’n bosibl y bydd angen i Bont Menai aros ar agor i gerbydau ochrau uchel felly byddwn yn gwneud cais am ganiatâd i gau’r ffyrdd ychwanegol canlynol*:
- Allt Cichle, Llandegfan
- Lôn Ganol, Llandegfan (I ben Allt Goch Bach)
- Allt Goch Bach, Biwmares
*Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai na fydd angen cau'r holl ffyrdd a restrir uchod. Bydd penderfyniad ynglŷn â pha rai yn cael ei wneud ar y diwrnod.
Byddwn yn cau dwy ran o dair o faes parcio Ffair Porthaethwy ar gyfer y digwyddiad – bydd y traean arall yn parhau i fod ar gael i drigolion.
Bydd llwybr dargyfeirio llawn wedi'i arwyddo a bydd mynediad i Gallows Point yn cael ei gynnal.
Byddwn yn anfon llythyr at yr holl drigolion yr effeithir arnynt chwe wythnos cyn dyddiad y digwyddiad.
Parcio
Er mwyn lleihau tagfeydd o amgylch Porthaethwy, mae gennym ddau faes parcio penodol i'r digwyddiad. Ceir manylion llawn y rhain ar ein tudalen Teithio a Llety.
Gwylio
Mae croeso i wylwyr ddod i’n digwyddiadau i godi calon pawb sy’n cymryd rhan! Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyffrous a chadarnhaol ym mhob un o’n digwyddiadau, a byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw i ychwanegu at y croeso cynnes Cymreig y mae ein cymunedau lleol yn ei gynnig.
Rydym yn cynghori gwylwyr i wasgaru ar hyd y cwrs.
Cymryd Rhan
Rydym bob amser yn cadw llygad am bobl i ymuno â'n tîm anhygoel o Farsialiaid a Gwirfoddolwyr ac mae'n ffordd wych o godi arian ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen leol. Os ydych chi'n fusnes lleol a bod gennych gynigion dros benwythnos digwyddiadau, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynnwys yn ein cyfathrebiadau â'n hathletwyr. Mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer stondinau yn ein Pentref Digwyddiad.
Arwyddion a Sbwriel
Mae ein holl arwyddion yn cael eu tynnu yn syth ar ôl y digwyddiad ac rydym yn casglu'r holl sbwriel fel y nodwyd yn ein polisi amgylcheddol. Byddwn yn ymateb i unrhyw adroddiadau o arwyddion wedi'i fethu neu sbwriel ar unwaith felly, er mae'n annhebygol, os digwyddith hyn cysylltwch â ni.
Bydd angen i wylwyr ddefnyddio'r cyfleusterau Talu ac Arddangos priodol wrth barcio. Mae wardeniaid y cyngor yn debygol o roi tocynnau ar gerbydau sydd wedi'u parcio'n wael gan eu bod yn peri risg gwirioneddol i ddiogelwch yr holl gystadleuwyr.
• Mae garej Texaco yn gallows point yn lle gwych i wylio rhedwyr yr Hanner Marathon
• Mae’r stryd fawr hefyd yn lleoliad gwych i wylio gan y byddwch yn gweld y rhedwyr ar y ffordd olaf i gyrraedd y llinell derfyn.
Mae croeso i chi ddod i mewn i'r pentref digwyddiadau i fwynhau'r awyrgylch ac ymweld â'n stondinau masnach.