Digwyddiad COVID Diogel
Beth alla i ddisgwyl o Ddigwyddiad COVID Diogel Camu i'r Copa?
Er mwyn cyflwyno digwyddiad COVID Diogel, byddwn yn cadw at y canllawiau perthnasol gan ein Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol yn ogystal â Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Gwybodaeth Cofrestru
Ble alla i ddod o hyd i'r telerau ac amodau?
Nid wyf yn gallu cymryd rhan mwyach. Beth yw fy opsiynau?
Os na allwch gymryd rhan mewn digwyddiad mwyach mae gennym ddau opsiwn trosglwyddo; trosglwyddo i gystadleuydd arall, neu drosglwyddo i ddigwyddiad arall. Rhaid i drosglwyddiadau ddigwydd o leiaf UN mis calendr cyn y digwyddiad. Am ein telerau ac amodau llawn gweler yma: (Terms and Conditions.)
A allaf newid aelodau fy nhîm?
Ydych. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich e-bost cadarnhau i fewngofnodi a newid manylion aelodau'ch tîm.
A oes isafswm oedran i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn?
Gall yr oedran lleiaf amrywio ar gyfer pob pellter rasio oherwydd canllawiau'r Corff Llywodraethol Cenedlaethol. Dewiswch y pellter o dudalen y digwyddiad i ddod o hyd i ofynion Isafswm Oedran penodol ynghyd â gwybodaeth rasio arall.
Oes gennych chi restr aros?
Nid ydym yn cadw rhestr aros ar gyfer ein digwyddiadau. Os na all cyfranogwyr fynychu'r digwyddiad mwyach ac am werthu eu cais, rydym yn eu cynghori i'w postio ar ein Tudalen Facebook.
Ydych chi'n cynnig lleoedd elusennol?
Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nifer o elusennau i gefnogi eu codi arian. Os ydych chi'n sefydliad elusennol, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.
Os ydych chi'n unigolyn sydd am gymryd rhan mewn lle elusennol, cysylltwch â ni i gael rhestr o'n partneriaid elusennol cyfredol sy'n cynnig lleoedd.
Mae gen i anabledd ydi'n bosib i mi dal gymryd rhan?
Rydym yn awyddus i wneud ein digwyddiadau mor hygyrch a chynhwysol â phosibl, fodd bynnag, oherwydd lleoliad rhai o'n digwyddiadau a thir y cwrs gall fod cyfyngiadau. Cysylltwch â ni ar info@alwaysaimhighevents.com i drafod eich gofynion a sut y gallem eich cefnogi.
Beth yw aelodaeth diwrnod BTF a pham mae ei angen?
Mae trwydded diwrnod BTF yn drwydded ar gyfer rasio ac mae'n cynnwys eich yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am y diwrnod. Os nad ydych chi eisoes yn aelod Triathlon Prydain mae angen aelodaeth ddydd arnoch i gydymffurfio â Rheolau Cystadleuaeth Triathlon Prydain sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cystadleuydd fod yn aelod o'r gamp am y dydd.
Mae'n ddilys ar ddiwrnod eich cystadleuaeth ac ni ellir ei drosglwyddo. Dewch â siec neu'r newid cywir o £5 i brynu'ch aelodaeth wrth gofrestru. Os ydych chi'n aelod cysylltiedig o Ffederasiwn Triathlon Prydain neu ffederasiwn eich mamwlad cyflwynwch eich ID aelodaeth flynyddol i'n tîm wrth gofrestru.
Gwybodaeth Cyn y Digwyddiad
Pryd y byddaf yn derbyn fy Nghyfarwyddiadau Terfynol?
Bydd eich Cyfarwyddiadau Terfynol yn cael eu hanfon atoch o leiaf 10 diwrnod cyn y digwyddiad. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth fanwl y bydd ei hangen arnoch am y digwyddiad a'ch ras benodol gan gynnwys amseriadau wedi'u cadarnhau.
Pryd/sut y byddaf yn derbyn fy mhecyn rasio?
Bydd pecynnau rasio yn cael eu codi wrth gofrestru ym mhentref y digwyddiad cyn dechrau'r ras. Cyhoeddir amseroedd cofrestru ar eich tudalen ras.
Beth sydd yn fy mhecyn rasio?
- 'Chip' Amseru - rhaid ei chysylltu i'ch ffêr gyda'r strap Felcro wedi'i darparu a'i dychwelyd i'r trefnwyr ar y llinell gorffen ONI BAI eich bod chi'n gystadleuydd Savage. RHAID i gystadleuwyr Savage sicrhau eu bod yn cadw eu tag yn dilyn y pellter sbrint gan y byddant yn defnyddio'r un tag ar gyfer y pellter Llawn y diwrnod canlynol. Codir tâl o £45 am 'chip' amseru coll neu sydd heb eu dychwelyd.
- Bib rhif ras - Angen i'w wisgo ar eich cefn i'r adran beicio ac ar eich blaenau i'r adran rhedeg. Gall belt rasio triathlon eich helpu i gyfnewid eich bib yn gyflym o'r cefn i'r blaen ac ar gael i'w brynu o'r siop Camu i'r Copa. Mae timau a chystadleuwyr Savage yn cael ei ddarparu efo 2 bib.
- Fflag Beic - Pilio'r cefn a chysylltwch i bost sedd eich beic
- Tatw Rhif Rasio - Dilynwch y cyfarwyddiadau printiedig a gosodwch y rhif ar eich braich uchaf dde a chroth coes allanol dde. Mae timau yn cael 2 tatw un i'r beicwyr (rowch ar fraich uchaf dde) ac un i'r rhedwyr (rhowch ar groth coes allanol dde)
- Band arddwrn diogelwch pontio - Angen ei wisgo ar bob adeg er mwyn cael mynediad i'r adran pontio cyn, yn ystod ac ar ôl y ras
- Het nofio â chod lliw - gweler adran diwrnod y ras am fwy o fanylion. Os ydych eisoes efo'r lliw het ofynnol gellir dychwelyd yr het heb ei ddefnyddio wrth y man ollwng yn cofrestru fel rhan o ein menter amgylcheddol
Pa don ydw i ynddo?
Byddwch yn gallu darganfod y don y dyrannwyd ichi iddi trwy'r traciwr byw tua 10 diwrnod cyn y digwyddiad. Mae tonnau'n dibynnu ar eich amcangyfrif o amser rasio cyffredinol. Cyhoeddir amseroedd tonnau yn y cyfarwyddiadau terfynol.
Diwrnod y Digwyddiad
Beth yw rheolau'r ras?
Mae ein digwyddiadau yn cael eu cynnal o dan Rheolau Ras Triathlon Prydain.
A oes gennych amseroedd torri i ffwrdd?
Dewiswch y pellter o dudalen y digwyddiad i ddod o hyd i unrhyw amseroedd torri ar gyfer y ras ynghyd â gwybodaeth arall. Mae amseroedd cau ar waith ar gyfer diogelwch yr athletwyr a'n marsialiaid.
Ydych chi'n darparu maeth?
Ydym. Mae dŵr, diodydd egni a geliau ar gael ar y gorsafoedd diod. Gweler mapiau llwybr ar-lein am leoliadau gorsaf fwyd bras. Manylir ar y wybodaeth ddiweddaraf yn eich cyfarwyddiadau terfynol.
Ydw i'n cael defnyddio fy nghlustffonau?
Digwyddiadau rhedeg - mae'r defnydd o glustffonau 'bone conduction' yn ganiataol. Mae'r defnydd o unrhyw fath arall o glustffonau wedi'i wahardd mewn cysylltiad efo rheolau British Athletics a fydd yn achosi gwaharddiad o'r ras.
Triathlon - Nid yw'r defnydd o glustffonau yn ganiataol yn ein digwyddiadau triathlon a duathlon mewn cysylltiad efo rheolau Triathlon Prydain. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o glustffonau 'bone conducting'. Caiff cyfranogwyr a welir yn defnyddio clustffonau ei wahardd.
Be allai mynd efo fi i'r adran pontio?
Dylai cystadleuwyr dim ond dod a chyfarpar i mewn i'r adran pontio a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y gystadleuaeth. Gellir defnyddio bag bach ag ochrau meddal fel sach deithio ac aros yn y cyfnod pontio, er na ddylai rwystro cynnydd cystadleuydd arall. Mae'r manylion llawn yn Rheolau Triathlon Prydain.
Beth fydd tymheredd y dŵr?
Bydd tymheredd y dŵr yn cael ei fesur yn swyddogol ar ddiwrnod y digwyddiad gan Ddyfarnwyr Triathlon Prydain 1 awr cyn dechreuad y ras. Bydd y wybodaeth yma yn cael ei chyfathrebu i'r athletwyr. Ar gyfartaledd, y tymheredd dwr yn Llyn Padarn i'r amser yma o'r flwyddyn yw 14-18 gradd.
Ydi 'wetsuit' yn ofynnol?
Dylech ddod a 'wetsuit' i bob digwyddiad. O dan reolau BTF mae 'wetsuits' unai yn ofynnol, dewisol neu yn waharddedig yn dibynnu ar gyfuniad o bellter nofio a thymheredd y dŵr.
I fyny at 1500m: Waharddedig uwchben 22°C, Dewisol rhwng 22°C a 14°C, Gofynnol o dan 14°C
1501-3000m: Waharddedig uwchben 23°C, Dewisol rhwng 23°C a 15°C, Gofynnol o dan 15°C
3001-4000m: Waharddedig uwchben 24°C, Dewisol rhwng 24°C a 16°C, Gofynnol o dan 16°C
Mae 'wetsuits' gofynnol angen gorchuddio o leiaf y torso
Gallwch wisgo unrhyw fath o 'westuit' gan gynnwys 'shorties'
Lle mae 'wetsuit' yn ofynnol, caniateir sanau. Ni chaniateir menig.
Oes unrhyw gyfyngiadau ar y fath o feic y gallaf ddefnyddio?
Nid yw beiciau-E neu unrhyw feic gyda chymorth pŵer yn ganiataol. Mae pob math arall o feic, gan gynnwys beiciau mynydd yn ganiataol. Nid ydych angen beic drud i unrhyw raddau er mwyn cymryd rhan.
Ydych yn llogi beiciau/'wetsuits'?
Nid ydi Camu i'r Copa yn llogi beiciau na 'wetsuits'.
Lle allaf barcio?
Mae gwybodaeth parcio yn gynwysedig yn eich Cyfarwyddiadau Terfynol fydd yn cael eich e-bostio i chi oeliaf 10 diwrnod cyn y digwyddiad. Os gwelwch yn dda byddwch yn feddylgar o breswylwyr lleol wrth barcio a defnyddiwch feysydd parcio talu ac arddangos lle yn bosibl.
Gwylio
Oes unrhyw traciwr byw?
Mae traciwr byw yn cael ei ddarparu gan ein partneriaid amseru TDL. Er mwyn cael mynediad i'r traciwr byw, lawr lwythwch yr ap neu fynd i'w gwefan yn defnyddio'r ddolen a fydd yn eich cyfarwyddiadau terfynol.
Beth all fy nheulu gwneud?
Mae ein pentref digwyddiad yn addas i deuluoedd ac mae ein holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau gyda llawer ar gael i deuluoedd. Rydym yn ymfalchïo mewn creu awyrgylch gwych i wylwyr fydd yn gallu olrhain y person maen nhw'n ei gefnogi gan ddefnyddio ap fel nad ydyn nhw'n eu colli ar bwyntiau allweddol.
Ar Ôl y Digwyddiad
Ble alla i ddod o hyd i ffotograffau fy nigwyddiad?
Dolen i'r ffotograffydd. Os gwnaethoch brynu pecyn ffotograffau dylech fod wedi derbyn e-bost gyda chyfeirnod a gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i'ch delweddau a'u lawrlwytho.
Arall
A allaf godi arian ar gyfer elusen?
Mae gennym ni nifer o elusennau rydyn ni'n eu cefnogi fel cwmni, ond mae croeso i chi gymryd rhan a chodi arian i elusen sy'n agos at eich calon.
Rhaid i unrhyw gasgliadau bwced yn ein digwyddiadau gael eu hawdurdodi gan yr awdurdod lleol lle mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal. Cyfrifoldeb y codwr arian yw cysylltu â'r awdurdod lleol, cyflwyno cais ac ennill awdurdodiad. Ni allwn wneud hyn ar eich rhan.
Mae gen i gwestiwn na atebwyd yn yr FAQs, sut gallai cysylltu â chi?
Os gwelwch yn dda e-bostiwch ni ar info@alwaysaimhighevents.com, fel arall gallwch ffonio ni ar 01248 723 553
In this section
-
- FAQs
- Teithio a Llety
- Gwybodaeth am bobl leol
- Gwirfoddoli
- Superfeet Sandman Triathlon 2024
- Superfeet Sandman Duathlon 2024
- Llandudno Triathlon 2024
- Llandudno Triathlon 2024
- Anglesey Trail Half Marathon & 10K 2024
- Anglesey Trail Cani-cross 2024
- Nick Beer Llandudno 10k 2025
- Jones o Gymru Anglesey Half Marathon and 10k 2024 copy
- Adventure Championships Triathlon 2024
- Adventure Championships Duathlon 2024
- Harlech Triathlon 2024 copy
- Harlech Duathlon 2024 copy
- Slateman Triathlon 2024
- Triathlon Y Bala 2024
- Tour de Môn 2024
- Craft Snowman Duathlon 2024
- Craft Snowman Triathlon 2024
- Aquasphere Snowman Swim 2024
- Ogwen25 | Yr Helgi Du 2024
- Black Diamond Yr Wyddfa24 2024
- XTERRA Marathon Llwybr Eryri 2024
- Aquasphere Cardiff Bay Try a Tri Swim 2024
- Slateman Duathlon 2024
- Slateman Triathlon 2024
- Harlech Triathlon 2024
- Harlech Duathlon 2024
- Jones o Gymru Hanner Marathon a 10k Môn 2024